SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Systemau Rheoli Ystadau

Mae systemau RhCChC (rheoli cyfleusterau â chymorth cyfrifiadur) yn cefnogi’r swyddogaethau ystadau sydd eu hangen drwy gydol bywyd adeilad. Mae angen gwahanol swyddogaethau ar wahanol gyfnodau o fywyd a defnydd adeilad. Gellir rhannu cylch bywyd adeiladau yn dri cham fel y dangosir isod. Mae gan y wybodaeth sydd ei hangen rywfaint o gyffredinedd rhwng y camau ond mae rhywfaint yn benodol i gam penodol.

Cam 1 – Dylunio ac Adeiladu

Mae’r cam hwn yn mynd â’r adeilad o gysyniad i gomisiynu..

Phase 1

Mae’r prosesau yn cynnwys :

o Dadansoddiad o’r angen am le
o Cynhyrchu ac arfarnu opsiynau
o Ariannu
o Rheoli’r prosiect
o Rheoli darluniau
o Rheoli lle
o Cofnodlyfrau
o Caffael asedau
o Adolygiadau ôl-ddeiliadaeth
o Rheoli dogfennau
o Llawlyfrau gweithredu a chynnal a chadw
o Rheoli symud
o Tystysgrifau perfformiad ynni

Cam 2 – Gweithredu a Chynnal a Chadw

Yn ystod y cam hwn, bydd yr adeilad yn cael ei gynnal a’i gadw, a’i reoli, a bydd ei berfformiad yn cael ei fonitro a’i adolygu.

Phase 2

Mae’r prosesau yn cynnwys :

o Desg gymorth
o Prosesu archebion gwaith
o Gwaith cynnal a chadw ataliol wedi’i gynllunio
o Amserlennu gwaith
o Gwaith cynnal a chadw hirdymor wedi’i gynllunio Rheoli lle
o Rheoli darluniau
o Rheoli asedau
o Rheolaeth ariannol
o Perfformiad ynni
o Arddangos tystysgrifau ynni
o Monitro a rheoli asbestos
o Archwiliadau gwahaniaethu ar sail anabledd
o Defnyddio lle o Addasrwydd swyddogaethol
o Rheoli symud
o Asesiadau risg tân

Cam 3 - Disodli yn erbyn Adnewyddu

Daw amser pan na fydd yr adeilad yn diwallu anghenion y defnyddwyr mwyach. Mae’r cam hwn yn ystyried a ddylid ei adnewyddu, ei newid at ddefnydd arall neu’i ddymchwel.

Phase 3

Mae’r prosesau yn cynnwys :

o Cynhyrchu ac arfarnu opsiynau
o Rheolaeth ariannol
o Rheoli’r prosiect
o Rheoli lle o Rheoli asedau
o Adolygiadau cyflwr / cydymffurfiaeth, gan gynnwys:
o Cyflwr
o Cydymffurfiaeth statudol
o Perfformiad ynni
o Monitro asbestos
o Diogelwch tân
o Gwahaniaethu ar sail anabledd
o Defnyddio lle
o Addasrwydd swyddogaethol

Mae pob un o’r tri sefydliad naill ai’n gweithredu neu’n gwella eu meddalwedd Rheoli Ystadau, yn enwedig ar gyfer cam ‘gweithredu a chynnal a chadw’ y cylch bywyd. Mae hyn yn golygu y bydd y data y maent yn ei gadw a’r adroddiadau y maent yn eu cynhyrchu mewn fformat cyffredin ar gyfer meincnodi. Erbyn diwedd prosiect SWWHEP, bydd gan bob sefydliad system RhCChC gynhwysfawr â swyddogaethau a ddefnyddir o fewn yr adran Ystadau ac ar draws yr holl sefydliad.

Bydd y ddesg gymorth ‘hunanwasanaeth’ yn caniatáu i aelodau o staff ar draws y sefydliad gofnodi a monitro ceisiadau am waith a rhoi adborth ar y gwaith a gyflawnwyd. Bydd y data eiddo yn gyfredol ac yn gywir a bydd wedi’i gysylltu â set lawn o ddarluniau AutoCAD.