SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Gwybodaeth Asedau

Un o nodau allweddol y tair adran ystadau yw gwella eu polisïau a’u gweithdrefnau ar gyfer rheoli a chynnal a chadw asedau.

Bydd strategaeth cynnal a chadw gyffredin yn cael ei chynhyrchu, yn ogystal â methodoleg a fformat cyffredin ar gyfer casglu data.  Unwaith y bydd y strategaeth a’r fethodoleg wedi’u cytuno, bydd y sefydliadau yn bwrw ymlaen ag arolygon i gasglu data asedau allweddol.  Bydd hyn yn cael ei gofnodi yn y Systemau Rheoli Ystadau.
Erbyn diwedd prosiect SWWHEP, bydd yr holl asedau sydd â gofyniad statudol a/neu gynnal a chadw sylweddol wedi’u cofnodi yn y system a bydd y fethodoleg ar gyfer cynnal a chadw’r asedau hyn wedi’i sefydlu.  Bydd y fethodoleg cynnal a chadw yn cynnwys :

  • Gwaith cynnal a chadw adweitheddol (drwy ddesgiau cymorth y sefydliadau)
  • Gwaith cynnal a chadw ataliol wedi’i gynllunio (gwaith cynnal a chadw statudol a/neu gylchol) 
  • Gwaith cynnal a chadw hirdymor wedi’i gynllunio (disodli asedau ar ddiwedd eu bywyd defnyddiol)

Mae pob un o’r tri sefydliad yn awyddus i newid ffocws eu trefn cynnal a chadw o drefn adweitheddol i drefn sydd wedi’i chynllunio.  Bydd hyn yn golygu bod y risg o fethiant yn cael ei lleihau a bod asedau yn parhau i fod mewn cyflwr da ac yn llawn weithredol.