Darluniau a Data Eiddo
Cynnyrch pwysig o’r prosiect Ystadau yw set gyflawn a chywir o ddarluniau. Dyma’r sail ar gyfer unrhyw system rheoli ystadau. Maent yn cysylltu’n ddynamig gyda systemau i ddarparu’r wybodaeth arwynebedd ar gyfer safleoedd, adeiladau, lloriau ac ystafelloedd. Mae gwybodaeth arwynebedd gywir yn hanfodol er mwyn cynhyrchu’r ystadegau niferus a ddefnyddir ar gyfer rheoli a chynllunio ystadau.
Bydd y prosiect yn cynnwys:
- Adolygiad o’r darluniau AutoCAD a gedwir gan bob sefydliad er mwyn gwirio eu cywirdeb
- Cywiro’r darluniau lle bo angen
- Cynhyrchu darluniau newydd lle bo angen
- Cysylltu’r darluniau â’r data yn y system rheoli ystadau