Rheoli Ystadau
Mae’r timau Ystadau yn y tri sefydliad yn cydweithredu ar draws ystod eang o swyddogaethau ystadau. Mae’r prosiect yn hwyluso’r gwaith o gasglu gwybodaeth mewn fformat cyffredin. Y nod yw adnabod a mabwysiadu arfer gorau o fewn pob sefydliad. Y cyfranogwyr allweddol yw :
- Ian MacPherson - – Dirprwy Gyfarwyddwr [Cyfleusterau] ym Mhrifysgol Abertawe
- David Overment - Cyfarwyddwr Ystadau, Prifysgol Fetropolitan Abertawe,
- Clive Howells - Rheolwr Ystadau, Prifysgol Cymru Y drindod Dewi Sant.
Mae cwmni o Abertawe, Quantarc Ltd, yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gyflawni amcanion y sefydliadau ar gyfer prosiect SWWHEP. Mae tîm y prosiect yn cydweithio i gynhyrchu fformatiau a methodoleg gyffredin ar gyfer gwybodaeth, gwaith cynnal a chadw a rheolaeth ystadau. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys cynnyrch mewn tri phrif faes gweithrediad ystadau :


Mae protocoliau a fformatiau ar gyfer gwybodaeth yn cael eu hadolygu, eu hasesu a’u gwella. Yn ogystal, mae gwaith yn cael ei gyflawni i gasglu gwybodaeth eiddo ac asedau fel bod set lawn o wybodaeth gywir ar gael gan bob sefydliad. Bydd yr holl waith sy’n cael ei gyflawni gan y grwp yn cyfrannu at strategaeth cynnal a chadw gyffredin a fydd yn arwain gweithredoedd y timau ystadau yn awr ac yn y dyfodol.