SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Rhyddid Gwybodaeth

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym yn rhannol yn 2004 gyda chyhoeddiad Cynlluniau Cyhoeddi statudol dan adrannau 19 neu 20 o’r Ddeddf, a daeth i rym yn llawn ym mis Ionawr 2005 pan ellid cyflwyno ceisiadau am wybodaeth.
Mae’r Ddeddf yn golygu bod yr holl wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus ar gael ar gais oni bai y gellir dadlau esemptiad.
Mae’r Ddeddf yn cael ei gorfodi gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y gall ceiswyr gwybodaeth apelio ati os ydynt yn anfodlon ag ymateb awdurdod.

Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:

  • Mae’n rhoi hawl gyffredinol i wybod pa wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus
  • Mae’n rhoi hawl i geiswyr dderbyn copi neu grynodeb o wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus oni bai bod esemptiad yn gymwys
  • Mae’n rhaid ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith
  • Nid yw’r Ddeddf yn ystyried y person na’r pwrpas
  • Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a chyhoeddi Cynlluniau Cyhoeddi sy’n nodi pa wybodaeth sydd ar gael fel rheol
  • Mae’r Ddeddf yn cwmpasu’r holl wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus heb ystyried y fformat na’r dyddiad