SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Tystebau

Credwn yn gryf fod gweithio gyda phrifysgolion yn syniad rhagorol ar gyfer busnesau, sefydliadau a chymunedau, ond yn hytrach na chanu ein clodydd ni’n hunain, mae’n well gennym adael i’n cleientiaid rannu’u profiadau …

“Mae fy mhrofiad o weithio gyda Phrifysgol Abertawe wedi galluogi fy nghwmni i fynd y tu hwnt i’r hyn y gallem fod wedi’i gyflawni ar ein pennau’n hunain.”

Norman Faulkner,  Cambrian Printers, Aberystwyth

“Roedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn gefnogol i’n busnes o’r adeg gyntaf i ni fynd atynt gyda’n syniad busnes, a, chwe mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i elwa wrth y berthynas agos sydd rhyngom.”

Dawn Lyle, Rheolwraig Gyfarwyddwraig, iCreate Ltd

 

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth ei bodd ei bod yn gweithio gyda Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin.  Mae ein partneriaeth gyda’r Brifysgol yn ein cynorthwyo i gysylltu gyda’r gymuned leol tra’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddarganfod a manteisio ar leoliad godidog Parc Dinefwr, Llandeilo”

Paul Faulkner, Rheolwr Eiddo

 

“Mae Prifysgol Abertawe wedi fy nghefnogi o’r diwrnod Cyntaf Un, gan droi’r freuddwyd o redeg fy Musnes fy hun yn realiti.  Dair blynedd yn ddiweddarach, mae ein perthynas yn un y mae’r ddau bartner yn medru elwa wrthi, ac mor gryf ag erioed.”

Steffan Davies, Cyfarwyddwr Cwrs, SBRI Cymru

 

“Rydym yn gwerthfawrogi’r cymorth a gawsom gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe er mwyn datblygu’r datrysiadau technegol yr oedd eu hangen arnom fel cwmni byd-eang i’n galluogi i gwrdd â’n strategaeth flaengar.”

Dr Chris Davies, Pennaeth Ymchwil Technegol & Arloesi, BELRON® Technical

 

"Roedd PLANED wrth eu bodd gyda’r Strategaeth Dwristiaeth ar gyfer Ardal Arberth a ddatblygwyd gan Goleg Prifysgol y Drindod mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid lleol.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Drindod yn y dyfodol.“

Jane Howells, PLANED

 

“Darparodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe gyngor proffesiynol wedi’i deilwra’n benodol er mwyn gwella hygyrchedd ein busnes i’r ymwelydd anabl.  Roedd yr hyfforddiant a ddarparwyd i staff blaen-ty allweddol yn amhrisiadwy.”

Gareth Evans, Rheolwr AD, Portmeirion Cyf

 

“Mae sawl cyfle wedi codi na fyddem wedi gallu elwa ohonynt oni bai ein bod wedi ein lleoli ar y campws, ac wedi derbyn cyfeiriad gan staff Prifysgol.  Rydym yn hynod ddiolchgar am hyn.”

Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr, Waters Creative

 

“Mae ein perthynas gyda Choleg Prifysgol y Drindod yn fodel rhagorol o fusnes, addysg a diwylliant yn gweithio ynghyd mewn cytgord perffaith.  Fel busnes, mae’n caniatáu cyswllt cryf i ni gyda chymuned bwysig iawn ac mae’r broses yn ein galluogi i ddatblygu’n barhaus ac i ddefnyddio amrediad eang o sgiliau.”

Dominic Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr, Parthian Books.