SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Hysbysiadau

Diwrnod Ysgrifenwyr Llwydiannus Yng Nghanolfan Dylan Thomas

Fri, 02 Jul 2010 11:55:00 BST

Cynhaliwyd diwrnod llwyddiannus o drafodaethau a darlleniadau o flaen cynulleidfa lawn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn ddiweddar gan adrannau ysgrifennu creadigol Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ar y cyd â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig.  

Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r fath gael ei gynnal y tu allan i’r Brifysgol, ac roedd yn gyfle i fyfyrwyr a chymuned ehangach Abertawe a Chaerfyrddin fwynhau diwrnod o drafod ynghylch ysgrifennu a chyhoeddi, i ddysgu mwy am adrannau ysgrifennu creadigol y naill brifysgol, ac i gwrdd â ffigyrau o bwys yn y diwydiant.

Bu sawl enw amlwg o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn mynychu’r digwyddiad gan gynnwys Dominic Williams o Parthian Books a Gwen Davies o Alcemi Press, yn ogystal â Euan Thorneycroft o AM Heath, a fu’n siarad â chyfranogwyr ynglyn â’i rôl fel prif asiant yn Llundain. Daeth y bardd a’r cyfansoddwr caneuon sefydledig Paul Henry â’r diwrnod i ben gyda pherfformiad arbennig o gerddoriaeth a barddoniaeth, wedi’i ddilyn gan sesiwn arwyddo llyfrau.

Fflur Dafydd talks to Gwen Davies

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Dr. Fflur Dafydd o Brifysgol Abertawe:

 “Roedd hi wir yn hyfryd gweld y gymuned academaidd a chymunedau ehangach Abertawe a Chaerfyrddin yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad hwn, ac roedd y gynulleidfa’n gyfuniad hyfryd o ysgrifenwyr awyddus ac ysgrifenwyr cyhoeddedig, pobl â diddordeb mewn llyfrau a beirniaid, yn ogystal â phobl â diddordeb yn ochr fasnachol cyhoeddi.

“Rydw i’n gobeithio bod cyfranogwyr wedi gwneud cysylltiadau defnyddiol yn ystod y dydd a fydd yn eu helpu wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf yn y byd cyhoeddi.

 “Rydym nawr yn gobeithio gallu rhedeg y digwyddiad hwn yn flynyddol.”

Noddwyd y digwyddiad gan Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig, ac roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan staff adrannau ysgrifennu creadigol y naill brifysgol – yr Athro Stevie Davies, Dr. Jeni Williams, Dr. Fflur Dafydd, a Nigel Jenkins – a fu’n siarad am eu profiadau eu hunain o gyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.