Sioe Deithiol Yrfaoedd SWWHEP 2008
Ym mis Tachwedd 2008, roedd SWWHEP wedi trefnu a chynnal Sioe Deithiol Yrfaoedd gyntaf erioed De Orllewin Cymru, sef prosiect peilot â’r nod o ddiwallu anghenion recriwtio graddedigion cwmnïau a myfyrwyr yn y rhanbarth. Dechreuodd y sioe deithiol ym Mhrifysgol Abertawe ar y 18fed Tachwedd, yna aeth i Brifysgol Fetropolitan Abertawe ar y 19eg, a daeth i ben yng Nghaerfyrddin ar yr 20fed yng Ngholeg y Drindod.
Roedd dros 80 o sefydliadau wedi arddangos yn y sioe deithiol, a oedd wedi ymweld â Thy Fulton ym Mhrifysgol Abertawe, campws Townhill ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, ac Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, o’r prif recriwtwyr graddedigion rhyngwladol fel PricewaterhouseCoopers a BAE Systems, i gwmnïau mawr, mwy lleol fel Llywodraeth Cynulliad Cymru, Corus a Dwr Cymru. Roedd y gwahanol sectorau o’r lluoedd wedi cymryd rhan drwy gydol y sioe deithiol, gyda’r Llu Awyr Brenhinol, y Fyddin, y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol i gyd yn arddangos. Cefnogwyd y ffeiriau hefyd gan GO Wales a oedd yn hyrwyddo eu swyddi, eu lleoliadau a’u cynlluniau blasu. Am restr lawn o’r recriwtwyr ym mhob ffair, ewch i’r dudalen hon: www.swansea.ac.uk/careers/Events/CareersRoadshow2008/
Mesurwyd llwyddiant y sioe deithiol yn ôl nifer y myfyrwyr a’r graddedigion a fynychodd, a ddaeth i gyfanswm o dros 2,000 dros y tri diwrnod. Roedd y myfyrwyr wedi nodi eu bod yn falch iawn bod digwyddiad wedi’i gynnal ym mhob campws ac roeddent wedi mynegi gwerthfawrogiad mawr o amrywiaeth yr arddangoswyr a’r wybodaeth werthfawr yr oedd modd iddynt ei chael.
Yn gyffredinol, mae SWWHEP wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan staff, myfyrwyr ac arddangoswyr fel ei gilydd, sy’n amlygu’r ffaith bod y digwyddiad yn llwyfan ardderchog i Dde Orllewin Cymru hyrwyddo lefel ardderchog o raddedigion a’i fod yn fformat delfrydol i helpu cwmnïau i ddatblygu ymagweddau mwy rhagweithiol tuag at recriwtio yn y rhanbarth hwn.
Parhewch i edrych yma am yr holl ddatblygiadau newydd o fewn y prosiect Gyrfaoedd!