Amgylchedd Dysgu Personol (ADP)
Cyflwynwyd PebblePad (PP) yn hydref 2008. (Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ym mis Medi 2008 a Choleg y Drindod Caerfyrddin ym mis Rhagfyr 2008).
Mae PP yn ADP / e-bortffolio ar y we y gall myfyrwyr a staff gael mynediad ato drwy Blackboard neu’r gwefannau priodol:
• Prifysgol Abertawe
• Prifysgol Fetropolitan Abertawe
• Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Gall myfyrwyr greu portffolio ar-lein o’u harteffactau a all gynnwys sawl math o ffeil o MS Office, cerddoriaeth, lluniau a fideo, yn ogystal â lanlwytho eu gwefannau eu hunain.
Mae Cynllunio Datblygiad Personol (CDP) a Chyflogadwyedd wrth graidd PP, gyda nifer o offer a chyfleuster storio ffeiliau ar-lein.
Mae’r rhain yn cynnwys adeiladwr CV, Cynlluniwr Gweithredu sy’n cynnwys SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau), yn ogystal â chwrs CDP ar-lein y gall myfyrwyr weithio drwyddo yn ystod eu hamser yn y Brifysgol.
Mae’n hawdd creu blogiau a gwefannau personol mewn ffordd sy’n galluogi myfyrwyr i rannu ffeiliau dewisedig o’u e-bortffolio yn hawdd a’u cyflwyno fel gwefan. Mae PP yn hawdd ei olygu, gyda ffenestri sy’n hawdd eu defnyddio. Gellir personoli’r rhyngwyneb er mwyn iddo fod yn addas ar gyfer anghenion yr unigolyn ac mae gan y myfyriwr reolaeth lwyr dros bwy sy’n gallu gweld eu gwaith, o gadw eu gwaith yn breifat, ei rannu gyda chyd-fyfyriwr, grwp neu diwtor o fewn PP, i rannu gwaith yn allanol. Mae’n hawdd cysylltu cyfeiriad gwefan â CV a grëwyd yn PP fel y gellir ei anfon wedyn at gyflogwyr fel atodiad i ffurflen gais a/neu CV traddodiadol. Gellir defnyddio’r Cynlluniwr Gweithredu mewn amryw o raglenni er mwyn cefnogi anghenion dysgu myfyrwyr, gwaith grwp, gwaith cynllunio prosiectau ac ati.
Ar ôl graddio, gellir allforio e-bortffolio’r myfyriwr yn hawdd neu barhau â’r tanysgrifiad am dâl bach i PP.
Gellir cael mynediad at enghreifftiau o ddefnydd a thiwtorialau cymorth yn ysgrifenedig ac ar fideo drwy wefan PebblePad a hefyd drwy dudalen mewngofnodi pob sefydliad.
