SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

This webpage is available in Welsh and English

Ynglyn â Phrosiect Gyrfaoedd SWWHEP

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Rhithwir De Orllewin Cymru yn un o 14 o brosiectau sydd wedi dechrau o ganlyniad i Gais Ad-drefnu a Chydweithredu SWWHEP (Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru) a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru). Mae SWWHEP wedi’i gyrru gan y tri sefydliad sy’n aelodau ohoni, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y Gwasanaeth

Nod cyffredinol y gwasanaeth yw creu rhwydwaith rhwng y Tair Canolfan Yrfaoedd a chynnig adnodd cyngor gyrfaoedd cydweithrediadol i fyfyrwyr o bob un o’r tri sefydliad. Bydd gwell cyflogadwyedd i fyfyrwyr yn cael ei gyflawni drwy ymgysylltu’n fwy effeithiol â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, a drwy ddefnyddio atebion technegol arloesol.

Y Manylion

Amcan allweddol y cynnig yw creu Amgylchedd Dysgu Personol (ADP) arloesol. Bydd yr Amgylchedd Dysgu Personol yr ydym wedi’i gyflwyno yn sail a fydd yn galluogi myfyrwyr, staff a chyflogwyr i rannu gwybodaeth yn agored.

O fewn yr ADP, bydd myfyrwyr yn gallu rheoli eu Hamgylchedd Dysgu eu hunain. Yma, bydd y myfyriwr yn adeiladu ac yn cynnal gwybodaeth ddigidol unigryw a fydd yn cofnodi eu datblygiad personol a’u dysgu, neu mewn geiriau eraill, e-bortffolio. Bydd y Cydgysylltydd Cynllunio E-ddysgu a Datblygiad Personol, Chris Cardew, yn ei ddefnyddio i wella e-ddysgu a sgiliau cyflogadwyedd ym mhob un o’r sefydliadau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y genhedlaeth o e-bortffolios y gall myfyrwyr eu hanfon yn uniongyrchol at gyflogwyr.

I gefnogi hyn, bydd y Cydgysylltydd Cyflogadwyedd a Marchnata, yn datblygu cysylltiadau gyda’r farchnad recriwtio graddedigion leol a chenedlaethol. Yn ogystal â hyrwyddo’r prosiect yn allanol, bydd y rôl hon yn ystyried cyflwyno dulliau newydd a gwell o ryngweithio ar gyfer cyflogwyr drwy gyfathrebu ar-lein fel blogiau a phodlediadau, a hefyd drwy wella digwyddiadau presennol ar y campws fel ffeiriau gyrfaoedd a gweithdai.

Gwybodaeth Allweddol

Mae’r cydweithrediad yn cynnwys 19,842 o fyfyrwyr, y gellir eu dadansoddi fel a ganlyn:

Prifysgol Abertawe – 11,754
Prifysgol Fetropolitan Abertawe – 6,007
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – 2,081

Mae amrywiaeth y pynciau a astudir a’r meysydd arbenigedd ym mhob sefydliad yn golygu bod y bartneriaeth hon yn berthnasol i bob cwmni a phob cyflogwr yn Ne Orllewin Cymru, y DU yn ei chyfanrwydd ac yn fyd-eang.