SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

This webpage is available in Welsh and English

Newyddion

Y 3J yn ymddangos yng Nghylchgrawn Agcas

Thu, 25 Mar 2010 16:09:00 GMT

Ymddangosodd Charlotte Dix, cyn Gydlynydd Marchnata a Chyflogadwyedd ar gyfer prosiect Rhith Yrfaoedd SWWHEP mewn erthygl yng nghylchgrawn misol Agcas Pheonix yn ddiweddar. AGCAS yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer ymarferwyr gyrfaoedd addysg uwch (AU), yn defnyddio arbenigedd ac adnoddau eu haelodaeth er lles ei haelodau, ei gwasanaethau gyrfaoedd AU, ei chwsmeriaid, ar sector gyfan.

Roedd yr erthygl yn ymwneud â’r fideo “y 3J” a greodd Charlotte i geisio dal sylw’r corff myfyrwyr presennol ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch y gwasanaethau Gyrfaol niferus y mae’r tri sefydliad SWWHEP yn eu cynnig.  

Darllenwch yr erthygl lawn yma: Pheonix Agcas article