Newyddion
Data-bas Swyddi Myfyrwyr yn cyrraedd marc 500 o fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe a marc 200 ym Mhrifysgol Coleg y Drindod Caerfyrddin
Tue, 16 Feb 2010 10:22:00 GMT
Sefydlwyd y Data-bas Swyddi Myfyrwyr a yrrir gan Pnet ym mis Medi 2009 ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe yn ogystal â Phrifysgol Coleg y Drindod Caerfyrddin fel rhan o Fenter Gyrfaoedd SWWHEP. Ers hynny mae wedi denu sylw nifer fawr o fyfyrwyr sy’n edrych ar y data-bas yn wythnosol.
Nod y prosiect yw gwneud yn siwr bod y gwasanaeth hwn ar gael ac yn hawdd i’w gyrraedd i fyfyrwyr yn y naill sefydliad, ac annog cyflogwyr yn y DU ac yn rhyngwladol i gofrestru a hysbysebu eu swyddi gwag. Â chynnydd parhaus yn y nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru, mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi cyrraedd y marc o 500 o fyfyrwyr cofrestredig ac mae Prifysgol y Drindod wedi cyrraedd 200! Mae’r ffigyrau hyn yn dangos bod dros 8% o fyfyrwyr yn y ddau sefydliad wedi cofrestru yn y 6 mis diwethaf ers dechrau’r prosiect.
Mae’r canlyniadau hyn yn arwyddocaol a llwyddwyd i’w cyrraedd drwy nifer o strategaethau marchnata.
Mae porthwyr RSS wedi bod yn declyn marchnata allweddol sydd wedi’i ddefnyddio ar wefannau a Blackboard yn y ddau sefydliad ac mae hyn wedi denu cynulleidfa eang. Mae’r porthwyr hyn wedi’u defnyddio i hysbysebu’r data-bas drwy alluogi i fyfyrwyr edrych ar y swydd ddisgrifiadau yn gyntaf ac, os oes diddordeb, eu hannog i gofrestru ac edrych ar yr hysbyseb yn ei gyfanrwydd.
Gwahoddwyd Steven Evans gan Graduate Prospects i wneud cyflwyniad ym Mhrifysgol Manceinion i gynrychiolwyr Prifysgolion y Gogledd yn ymwneud â manteision RSS ac i arddangos sut y maen nhw wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect hwn. Defnyddiwyd y cyflwyniad hwn yna gan Graduate Prospects yn Llundain â Phrifysgolion y De.
Dywedodd Dr Mark Watts, Pennaeth Software Solutions yn Graduate Prospects:
“Cawsom arddangosiad ardderchog gan Steven Evans (PFA) ar sut y gall defnyddio porthwyr swyddi RSS fel rhan o’ch cynllun marchnata chwilio am waith gynyddu’r nifer o bobl sy’n cofrestru i chwilio am waith gyda chi yn sylweddol.”
Mae Canllaw Cofrestru i Fyfyrwyr wedi’i dylunio ac mae ar gael ar dudalennau gwe Gyrfaoedd y ddau sefydliad ac fel arbedwyr sgrin ar gyfrifiaduron y Llyfrgell Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (Canllaw Cofrestru i Fyfyrwyr).
Mae e-byst yn cael eu gyrru at fyfyrwyr yn gyson i roi gwybod iddynt ynglyn â swyddi perthnasol a hysbysir drwy’r cyswllt i’r data-bas a ddarperir. Mae’r strategaethau hyn yn atgyfnerthu’r gwasanaeth a gynigir. Mae’r ystadegau’n dangos cynnydd cydberthynol mewn ffigurau cofrestru myfyrwyr, yn enwedig yn dilyn yr e-byst.
Teclyn marchnata arall yw Cerdyn Post SWWHEP sy’n esbonio sut i gyrraedd y Data-bas Swyddi drwy dudalen we Gyrfaoedd SWWHEP; ei bwrpas yw cynnal y gyfradd lwyddiannus o fyfyrwyr sy’n cofrestru.
Dosberthir y cardiau post hyn i fyfyrwyr mewn darlithoedd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Coleg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe. Mae’n un o gyfres o dri o gardiau post sy’n defnyddio logo’r 3J a grëwyd gan Charlotte Dix fel rhan o strategaeth Gyrfaoedd Marchnata a Chyflogadwyedd SWWHEP.

