Datblygu eich myfyrwyr
Nid yw cyflogwyr heddiw yn chwilio am ganlyniadau gradd da yn unig, maen nhw eisiau gweld graddedigion ag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy’n gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi datblygu eu hunain yn broffesiynol. Gydag ychydig iawn o ymdrech, gallwch chi helpu’ch myfyrwyr i wella eu Cyflogadwyedd drwy eu cyflwyno i PebblePad fel y gallant lunio e-bortffolio neu’r hyn a elwir hefyd yn Amgylchedd Dysgu Personol.
Wedi clywed am PebblePad? Ansicr ynglyn â’r hyn mae’n ei wneud?
Yn fyr, mae’n darparu offer sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a myfyrio ar eu dysgu.
Gall myfyrwyr greu dyddiadur myfyriol, CV ar-lein, gwefannau a blogiau, y gellir eu rhannu gyda Staff a Chyflogwyr os dymunir. Gallant hefyd gwblhau dadansoddiad SWOT personol, a Chyrsiau Cynllunio Datblygiad Personol ar-lein. Erbyn iddyn nhw gwblhau eu hastudiaethau, bydd ganddyn nhw ddigonedd o wybodaeth y gellir ei defnyddio fel tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol a Phersonol ar gyfer Cyflogwyr.
Nid dyna’r hyn rydych chi’n chwilio amdano?
Yna, beth am ddefnyddio PebblePad fel offeryn personol yn unig, er mwyn rhannu / storio gwybodaeth y gellir ei chyrchu lle bynnag y byddwch chi’n mynd. Mae hefyd yn wych ar gyfer adegau pan fydd eich myfyrwyr yn gwneud lleoliadau neu brofiad gwaith oherwydd gallwch chi weld eu dyddiadur dysgu ac adolygu eu cynnydd ! Neu, a ydych chi eisiau i’ch myfyrwyr rannu syniadau a thrafod problemau ymysg ei gilydd? Yna, gofynnwch iddyn nhw greu blog! Gwych !!
Am ragor o wybodaeth ynglyn ag e-bortffolios a sut gallwch chi eu cyflwyno i’ch myfyrwyr, cysylltwch â Chris Cardew ar c.j.cardew@swansea.ac.uk
pebblepad anim here !