SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

This webpage is available in Welsh and English

Pwy ydych chi’n chwilio amdano?

Mae SWWHEP wedi’i gyrru gan 3 Prifysgol y mae ganddyn nhw safon ardderchog o fyfyrwyr yn eu meysydd.

•  Prifysgol Abertawe
•  Prifysgol Fetropolitan Abertawe
•  Prifysgol Cymru Y drindod Dewi Sant

Gyda’r cydweithrediad o ran adnoddau, sgiliau a myfyrwyr, rydych chi’n sicr o ddod o hyd i’r Graddedigion rydych chi’n chwilio amdanyn nhw o fewn cydweithrediad SWWHEP.

Mae Prosiect Gyrfaoedd SWWHEP yma i’ch helpu chi i gyrchu’r myfyrwyr hynny, eu hysbysu ynglyn â’r gyrfaoedd rydych chi’n eu cynnig a’u cynghori ynglyn â gwella eu cyflogadwyedd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n Raddedigion perffaith ar eich cyfer chi.

Felly, beth allwch chi ei wneud ….

•  Mynychu Sioe Deithiol Yrfaoedd SWWHEP (Hydref 2009).
•  Creu fideos i’r myfyrwyr sy’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw am wahanol yrfaoedd.
•  Dod i mewn i roi cyflwyniad neu siarad gyda’r myfyrwyr.
•  Cynnal cyrsiau sgiliau meddal i fyfyrwyr.
•  Ychwanegu eich swyddi gwag yn uniongyrchol at ein cronfa ddata swyddi gwag.

Mae gan ein myfyrwyr hefyd gyfleusterau i greu e-bortffolios sy’n cynnwys CVs ar-lein, blogiau a gwefannau. Mae hefyd yn rhoi lle iddyn nhw gofnodi datblygiad eu sgiliau. Eisiau dysgu mwy am ein myfyrwyr? Anogwch nhw i siarad gyda chi yn electronig gan ddefnyddio’r e-bortffolios. Mae’n ffordd wych ymlaen !

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw un o’r uchod neu fod gennych chi ffyrdd newydd o helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i’w gyrfa berffaith, cysylltwch â ni ar careers.marketing@swansea.ac.uk