SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Datblygu eich hun!

Nid yw Cyflogwyr Graddedigion yn chwilio am ganlyniadau gradd da yn unig. Maen nhw hefyd eisiau gweld eich bod chi wedi datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu chi yn y gweithle. Er enghraifft :

Gwaith tîm  Sgiliau Cyfathrebu

Uniondeb  Prydlondeb  Dibynadwyedd

Nid yn unig y mae angen i chi gael y sgiliau meddal hyn ond mae hefyd angen i chi fod yn gallu rhoi tystiolaeth i ddarpar gyflogwyr o’ch dysgu a’ch datblygiad tuag at y sgiliau hyn.

CWESTIWN: FELLY …… Sut mae gwneud hyn? 
ATEB: Drwy lunio e-bortffolio!!

Mae PebblePad yn offeryn e-bortffolio gwych sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgolion SWWHEP. Mae’n caniatáu i chi fyfyrio ar eich dysgu a chreu e-bortffolio yn llawn o dystiolaeth o’ch Datblygiad Personol a Phroffesiynol y gellir ei rannu gyda darpar gyflogwyr.

Mae hefyd yn caniatáu i chi greu blogiau rhyngweithiol, CVs ar-lein, dyddiaduron dysgu a gellir rhannu pob un o’r rhain gyda phwy bynnag rydych chi ei eisiau!  - eich cydfyfyrwyr, darlithwyr, cyflogwyr, unrhyw un!

Mewn ychydig o gamau hawdd, fe all helpu i wella eich Cyflogadwyedd !

Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.