SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Student Services - Gwasanaethau Myfyrwyr

Pam y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol

Mae’r graff isod yn dangos y nifer cynyddol o fyfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl (2006). Mae hefyd yn dangos y gwahaniaeth sylweddol rhwng nifer y myfyrwyr sy’n datgan ochr yn ochr â’r amcangyfrif uchaf o rhwng 6% a 10% o fyfyrwyr sy’n profi anhawster iechyd meddwl sylweddol yn ystod eu cyfnod astudio.

 Boblogaeth y Myfyrwyr

Darpariaeth gwasanaeth gyfredol

Er bod pob un o’r tri sefydliad yn darparu cymorth cwnsela, dim ond Prifysgol Abertawe sydd â chydgysylltydd iechyd meddwl parhaol, sy’n darparu cymorth i fyfyrwyr a chyswllt mewnol ac allanol yn benodol.  

Canolfan Asesu Anghenion (LMA) De Orllewin Cymru

Bydd y prosiect yn datblygu canolfan ragoriaeth ar gyfer asesiadau Lwfans Myfyriwr Anabl yn Ne Orllewin Cymru, cyfleuster y mae ei angen ar frys ac a fydd yn cael effaith uniongyrchol a pharhaol ar fyfyrwyr ag anableddau.

Bydd y swît LMA bresennol ym Mhrifysgol Abertawe (PA) yn cael ei gwella er mwyn galluogi newid sylweddol yn nifer yr asesiadau y gellir eu cynnal a bydd Abertawe yn bwynt cyfeirio cyntaf i bob SAU. Bydd asesydd dan hyfforddiant yn cael ei benodi a’i hyfforddi dros amser er mwyn diwallu’r gofynion i gynnal asesiadau ar draws yr ystod lawn o anableddau.   Yn ystod oes y prosiect, bydd yr hyfforddai yn canolbwyntio ar gyflawni asesiadau ar gyfer y grwp anabledd mwyaf mewn AU, Anawsterau Dysgu Penodol (Dyslecsia, Dyspracsia, Dysgraffia, Hyperlecsia ayyb.)

Bydd yr hyfforddai hefyd yn sicrhau bod y Ganolfan Asesu yn gweithredu yn ôl y safonau uchel a osodir gan y Grwp Sicrwydd Ansawdd LMA a’i bod yn cael ei chymeradwyo yn yr archwiliad sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi 2008.

Beth yw’r LMA? Cliciwch yma.