Heriau i’w Goresgyn
Mae nifer o heriau i adrannau gwasanaethau myfyrwyr modern mewn SAUau eu goresgyn. Diben prosiect Gwasanaethau Myfyrwyr SWWHEP yw helpu pob un o’r 3 SAU i oresgyn y rhain. Mae rhai o’r heriau hyn wedi’u crybwyll isod:
Amharodrwydd parhaus i ddatgan anhawster iechyd meddwl
Mae paramedrau a ffiniau i’r cymorth y gall SAUau ei ddarparu. Nid yw SAUau, ac ni ddylent fod, yn ceisio darparu asesiad, triniaeth neu feddyginiaeth seiciatrig i fyfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl; dyma rôl Gwasanaethau Iechyd Meddwl allanol y GIG, yn briodol. Gall SAUau, lle mae ganddynt yr adnoddau i wneud hynny, ddarparu cymorth therapiwtig parhaus drwy gwnsela a rôl gydgysylltu yn fewnol er mwyn rhannu gwybodaeth briodol gydag adrannau academaidd, a datblygu a darparu gwasanaethau cymorth fel mentora a chyswllt hanfodol gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl allanol y GIG.
Rôl, gweithredoedd a diffyg gweithredoedd Gwasanaethau Iechyd Meddwl allanol y GIG
O ganlyniad i gyfyngiadau adnoddau yn y GIG, mae’r Cymorth Iechyd Meddwl y mae’n ei ddarparu yn gogwyddo at yr achosion mwyaf acíwt a brys. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae bwlch a thensiwn o ganlyniad i hynny rhwng ffin y cymorth a ddarperir gan SAU a’r pwynt lle mae gwasanaethau iechyd meddwl allanol yn cymryd rhan weithredol.
Rhwymedigaethau cyfreithiol gwrthdrawiadol
Ceir achosion lle mae gwrthdaro’n codi rhwng y rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig ag anabledd i’r myfyriwr ag anawsterau iechyd meddwl a’r ddyletswydd gofal tuag at fyfyrwyr eraill a rhwymedigaethau’r cyflogwr i’w staff. Gall hyn fod yn anodd iawn i’w gysoni wrth benderfynu ar ddull gweithredu priodol.
Cymorth a hyfforddiant i staff
Fel y nodwyd uchod, mae staff y rheng flaen yn benodol yn teimlo effaith episod iechyd meddwl. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, maent yn ei chael yn anodd iawn deall a derbyn cyngor proffesiynol lle mae’n gwrthdaro â’u greddf naturiol i ddarparu’r cymorth a ddisgwylir yn arferol gan y sefydliad ym mhob achos arall. Mae’n hanfodol felly fod staff o’r fath yn derbyn hyfforddiant staff.