SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Student Services - Gwasanaethau Myfyrwyr

Cynllun Mentora SWWHEP

Mae’r agenda cynhwysiant a gwahaniaethu ar sail anabledd wedi datblygu’n sylweddol dros y degawd diwethaf a bellach mae’n cwmpasu ystod eang o anableddau, gan gynnwys iechyd meddwl. Roedd deddfwriaeth Cydraddoldeb i Bobl Anabl ddiweddar yn gosod set gref o rwymedigaethau statudol ar gyrff y sector cyhoeddus mewn perthynas â’r holl grwpiau cyfle cyfartal. Mae datblygiadau o’r fath i’w croesawu; fodd bynnag, maent yn cynnig set benodol o heriau mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau SAUau a Gwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG nad oes ganddynt ddigon o adnoddau yn aml ac sydd felly yn gallu cefnogi’r rheini ag anawsterau iechyd meddwl mwy difrifol ac acíwt yn unig.

Mae iechyd meddwl yn dal i fod yn anabledd sy’n cael ei guddio i raddau helaeth, gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn datgan wrth ymgeisio o’i gymharu â’r amcangyfrif uchaf o rhwng 6% a 10% o fyfyrwyr sy’n profi anhawster iechyd meddwl sylweddol yn ystod eu cyfnod astudio.

Bydd y prosiect yn caniatáu twf graddol, amserol ac organig cynllun mentora proffesiynol, cadarn a phwrpasol ym mhob un o’r tri sefydliad. Bydd yn recriwtio cronfa (nifer targed 6) o fentoriaid iechyd meddwl a fydd ar gael i bob SAU ar sail anghenion. Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau bod modd integreiddio’r cynllun yn llawn ym mhob SAU gyda’r trefniadau Gwasanaethau Myfyrwyr gwahanol a chyda rolau a swyddogaethau staff unigol.

Bydd y SAUau yn cydweithredu ar recriwtio, anwytho a hyfforddiant a datblygiad blynyddol parhaus, adnoddau gwybodaeth a dogfennaeth a ffurflenni. Bydd y mentoriaid yn derbyn goruchwyliaeth allanol a byddant yn cwrdd yn rheolaidd i ddarparu cymorth cymheiriaid.