Prosiect Gwasanaethau Myfyrwyr SWWHEP
Mae elfen y cydweithrediad sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yn cynnig cyfle a groesewir i bob un o’r SAUau sy’n rhan ohono ddatblygu a gwella cymorth i fyfyrwyr anabl.
Mae’r cyfleoedd newid bywyd a gwella bywyd a gynigir gan addysg uwch yn cael effaith bwerus ar bob myfyriwr. Nid yw hyn yn fwy amlwg yn unlle nag ymhlith myfyrwyr ag anableddau sydd wedi’u hallgáu o addysg y brif ffrwd yn hanesyddol ac y mae’n hanfodol eu bod yn cael chwarae teg drwy addasiadau, cefnogaeth, cymhorthion a gwasanaethau. Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous a chadarnhaol yn y sector addysg uwch dros y degawd diwethaf oedd yr ymgysylltiad â’r agenda hon, gan sefydlu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth i bobl anabl. Yn ei dro, mae hyn wedi galluogi miloedd o fyfyrwyr ag anableddau i gyfranogi a llwyddo ar draws addysg uwch.
Y prosiectau Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr yw:
-
Cynllun Mentora De Orllewin Cymru i Fyfyrwyr ag Anawsterau Iechyd Meddwl
-
Canolfan Asesu Anghenion (Lwfans Myfyriwr Anabl) De Orllewin Cymru