SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

RFID - Adnabyddiaeth amledd radio

Prosiect Llyfrgell Academaidd Rithwir – dyfarnu contract i weithredu RFID
Mae’r Prosiect Llyfrgell Academaidd Rithwir wedi dyfarnu’r contract mawr cyntaf dan delerau Prosiect Ad-drefnu a Chydweithredu Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru: Cydweithrediad Gweinyddol Swyddogaethol. Yn dilyn proses dendro UE gystadleuol dros ben, dyfarnwyd y contract i 2CQR sydd wedi’i leoli yn Swydd Nottingham, i gyflenwi a gweithredu system technoleg RFID (adnabyddiaeth amledd radio) er mwyn darparu systemau diogelwch a rheoli stoc hunanwasanaeth o’r radd flaenaf i’r saith llyfrgell ar draws y tri SAU, sy’n cynnwys casgliad o bron i 1.2 miliwn o eitemau.

Drwy fabwysiadu’r dechnoleg hunanwasanaeth hon, bydd llyfrgelloedd y sefydliadau yn sylweddol haws eu defnyddio, effeithlon ac, yn y tymor hir, bydd yn cynorthwyo wrth beri arbedion sylweddol yn eu cyllidebau.
Mae 2CQR yn gwmni sefydledig â llawer o flynyddoedd o brofiad wrth gyflenwi systemau llyfrgell i lyfrgelloedd academaidd a chyhoeddus.  Gyda rhestr o gleientiaid sy’n cwmpasu hyd a lled y DU, mae 2CQR yn un o’r nifer gynyddol o gwmnïau sy’n arbenigo mewn darparu a datblygu atebion uwch-dechnoleg ar gyfer awtomeiddio llyfrgelloedd.

Yn y datganiad i’r wasg, dyfynnwyd geiriau Chris Robb o 2CQR:  “Rydym yn falch o fod yn rhan o brosiect blaengar mor fawr.  Fel arweinydd ym maes systemau llyfrgell, rydym bob amser yn gobeithio gweithio gyda phobl sydd â syniadau gweledigaethol.  Mae ein gallu i ganoli gweithrediad anghenion RFID pob un o’r tair llyfrgell yn hanfodol er mwyn arbed arian iddynt a gwella gwasanaethau ar yr un pryd.”

Aeth gweithrediad cychwynnol Adnabyddiaeth Amledd Radio (RFID) yn Llyfrgell Dinefwr Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe yn fyw ym mis Medi 2008. Bydd Llyfrgell Owen Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn mynd yn fyw adeg y Pasg 2009, gyda’r 4 safle llyfrgell sy’n weddill yn cael eu cwblhau dros wyliau haf 2009, mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn Academaidd 2009/10.

O ganlyniad i ddatblygiad cydweithrediadol gyda 2CQR hefyd, bydd y technolegau hunanwasanaeth RFID cyntaf yn cael eu cyflwyno yn y DU, megis hunandalu Sglodyn a PIN / Cerdyn Call integredig, a dulliau tracio eitemau ‘deallus’ ar y giatiau diogelwch ym mhob safle fel rhan o’r cynllun gweithredu.

Bydd gweithredu technoleg hunanwasanaeth RFID yn hwyluso gwelliannau ychwanegol a gynlluniwyd o fewn y prosiect, gan gynnwys cydfenthyca a chyflenwi dogfennau yn gorfforol ac yn electronig rhwng y sefydliadau.  Mae meysydd prosiect ychwanegol i gyflenwi mynediad a rennir at gatalogau llyfrgelloedd ac e-adnoddau, storio deunydd ymchwil defnydd isel ar y cyd ac ymagwedd gydgysylltiedig at ddatblygu staff, ar y gweill hefyd a byddant yn cael eu cyflwyno yn gyfochrog â hyn.

Mae cynllun marchnata a gwybodaeth ar gyfer y prosiect hefyd wedi’i gychwyn, â’r nod nid yn unig o sicrhau bod rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth mewnol yn ymwybodol o ddatblygiadau, ond defnyddio’r prosiect hefyd i godi proffil y 3 gwasanaeth llyfrgell yn sylweddol (a thrwy ymestyn y 3 sefydliad) fel rhai gweledigaethol, rhagweithiol, ac fel arweinwyr ym maes datblygu gwasanaethau.