SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Newyddion

iFind Research yn mynd yn fyw

Yn ddiweddar mae Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi actifadu gwasanaeth newydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo staff a myfyrwyr y brifysgol gael mynediad at ystod eang o erthyglau cylchgrawn, papurau cynadleddau, thesisau ac eitemau eraill. Mae’r gwasanaeth newydd yn darparu chwilotwr sy’n chwilio drwy nifer fawr o wefannau a chronfeydd data i ddod o hyd i erthyglau academaidd ac ysgolheigaidd ar destun neu bwnc arbennig.

Ceir mynediad hefyd at eitemau gan ddefnyddio cyfeirnod o lyfryddiaeth neu restr ddarllen. Dros y 18 mis diwethaf, mae’r prosiect iFind Research wedi cysylltu ag ystod o staff a myfyrwyr y brifysgol i ddylunio gwasanaeth a fydd yn darparu gwerth ychwanegol i’r ymchwil drwy arbed amser ac arian wrth ddarganfod a dosbarthu gweithiau ysgolheigaidd cyhoeddedig.

Dywedodd Andrew Brown, arweinydd prosiect iFind Research:

“Roedd hi’n bleser gweld staff a myfyrwyr yn cydnabod gwerth y gwasanaeth newydd wrth i ni ei arddangos yn ystod y broses ymgynghori. Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, mae uwch ddarlithwyr yn y brifysgol wedi dod o hyd i erthyglau mewn cylchgronau yn berthnasol i’w hymchwil nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o’r blaen. Rydw i hefyd yn cofio un myfyriwr yn galw ei ffrindiau draw i ymuno ag ef wrth inni ddangos y gwasanaeth iddo am y tro cyntaf. Trwy gynnwys cwsmeriaid drwy gydol y broses ddylunio rydym wedi creu rhywbeth o werth, ond nid yw’n peidio yno - byddwn yn parhau i wella’r gwasanaeth wrth i ni agosáu at y flwyddyn academaidd 2010/2011 drwy ymgynghoriadau pellach. Ni fyddwn wedi gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn heb ariannu gan SWWHEP”.

Mae’r tîm prosiect iFind Research wedi gweithio ar y cyd â llinyn prosiect SWWHEP, y Llyfrgell Academaidd Rithiol sydd wedi ariannu peth o’r meddalwedd ar gyfer y gwasanaeth newydd. Darperir gwasanaeth ar gyfer Myfyrwyr a Staff Prifysgol Abertawe yn unig a gellir cael mynediad ar Gampws PA yma: http://ifind.swan.ac.uk. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Andrew Brown.