Newyddion
Cynhadledd VuFind 2.0 2010
Bydd Luke O’Sullivan yn mynychu Cynhadledd VuFind 2.0 rhwng y 14eg - 17eg o Fedi yn Villanova, Pennsylvania. Bydd cynhadledd VuFind 2.0 yn amlygu tueddiadau ac amcanion yn natblygiad VuFind ac yn helpu i osod blaenoriaethau ar gyfer dyfodol y meddalwedd.
Bydd Luke yn cyflwyno crynodeb o’i waith ar ddefnyddio VuFind mewn amgylchedd Rheoli Aml Lyfrgell sydd wedi’i gyflawni drwy brosiect y Rhith Lyfrgell Academaidd.