SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Newyddion

Prifysgol Sussex yn elwa o arbenigedd LIS SWWHEP

Mae Luke O'Sullivan (Swyddog Systemau Llyfrgell SWWHEP) newydd orffen helpu Anirban Basu ym Mhrifysgol Sussex i osod a ffurfweddu VuFind gyda'r gyrrwr Talis Alto Jangle mae e wrthi’n datblygu ar hyn o bryd.

"Mae’n wych cael gosodiad Talis arall oherwydd rydw i’n gobeithio y gallaf wella’r gyrrwr hyd yn oed yn fwy, cael rhagor o adborth heriol a manteisio ar sgiliau rhywun arall!

Os ydych chi’n lwcus, un o fanteision y prosiectau Ffynhonnell Agored bydd eich cymuned o ddefnyddwyr. Trwy weithio gyda VuFind, rydw i wedi elwa’n fawr o gyngor gan y gymuned wrth geisio gwneud gwelliannau i iFind Discover. Yn y cyfamser rydw i wedi gwella fy sgiliau fy hun hefyd. Fel enghraifft o hyn - ychwanegu Hidlydd Neu i’r dudalen chwilio cyffredinol. Anfonais neges at y gymuned a chefais ateb gan ddau grwp oedd â diddordeb bron yn syth a rhyngom, drwy drafod a rhannu syniadau, daethom o hyd i ddatrysiad mewn 20 munud!”

[Luke O’Sullivan]