SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Newyddion

iFind Discover ar gael fel “beta byw”

Mae iFind Discover ar gael fel “beta byw”. Gellir ei weld yn http://ifind.swwhep.ac.uk, a cheir cyswllt ato drwy gatalog Voyager.

iFind Discover yw catalog cyfunol Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Coleg y Drindod, Caerfyrddin, wedi’i adeiladu ar blatfform darganfod ffynhonnell agored cenhedlaeth newydd  VuFind. Unwaith y caiff ei ddefnyddio yn fwy eang ac unwaith i ni dderbyn ac ymateb i adborth, y bwriad yw mai iFind Discover bydd y prif gatalog ym Mhrifysgol Abertawe.

Croesawir cwestiynau, adroddiadau o broblemau, sylwadau ac awgrymiadau, a dylech eu hanfon at Luke O’Sullivan a chopïo Paul Johnson. Fel arall, os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair rhwydwaith, gallwch ddefnyddio’r label adborth ar yr ochr chwith.

Ar 16/08/2010, dechreuodd waith ar gysylltu iFind Discover â Phrifysgol Coleg y Drindod. Unwaith y mae’r profion cychwynnol wedi’u cwblhau, bydd Luke O’Sullivan yn cwrdd ag aelodau Staff ym Mhrifysgol Coleg y Drindod i wneud yn siwr bod yr holl wybodaeth sydd angen arnynt wedi’i chynnwys yn iFind Discover.