SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Newyddion

Y Llyfrgell Academaidd Rithiol mewn Cynhadledd!

Cafwyd tri chyflwyniad ar y Llyfrgell Academaidd Rithiol mewn cynadleddau yn ystod 2009.

Ym mis Ebrill, roedd Prifysgol Abertawe yn gyd-westeiwr (ynghyd â PTFS Ewrop Ltd) mewn cynhadledd ar gyfer llyfrgellwyr yng Nghymru ar feddalwedd ffynhonnell agored mewn llyfrgelloedd. Cafwyd cyflwyniad gan Paul Johnson, Rheolwr Prosiect y Llyfrgell Academaidd Rithiol, ar VuFind, y porth darganfod Ffynhonnell Agored sy’n cael ei weithredu gan y prosiect; a hefyd siaradodd Mark Hughes, y rheolwr prosiect blaenorol sydd bellach yn Bennaeth Casgliadau ym Mhrifysgol Abertawe, ynglyn â’r RFID Agored mewn Manylebion Llyfrgelloedd (ORILS), arloesiad cymunedol y DU i gynorthwyo llyfrgelloedd eraill yn y DU â’u caffaeliadau RFID. Cododd y fanyleb o ymarfer caffael y Llyfrgell Academaidd ei hun ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan nifer o lyfrgelloedd eraill ar draws y DU.

Ym mis Mai cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan Paul Johnson a Mark Hughes ar weithredu VuFind gan y prosiect mewn cynhadledd genedlaethol ar feddalwedd ffynhonnell agored yn Llundain - Breaking the Barriers. Ysgrifennon nhw adroddiad ar y gynhadledd hefyd ar gyfer cylchgrawn Panlibus.

Ym mis Tachwedd, cafwyd cyflwyniad gan Mark Hughes ar gaffaeliad RFID, wedi’i seilio ar brofiad y prosiect, i’r gynhadledd RFID mewn Llyfrgelloedd yn Llundain. Yn ogystal â Mark, ymunodd swyddog systemau newydd y prosiect, Luke O’Sullivan â’r panel ar gyfer trafodaeth fforwm agored.