SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Newyddion

RFID yn cwblhau ei dymor cyntaf ar draws holl lyfrgelloedd SWWHEP

Mae elfen fwyaf prosiect Llyfrgell Academaidd Rithiol - RFID benthyca, dychwelyd a rheoli stoc - bellach yn fyw ym mhob un o chwe llyfrgell partneriaeth SWWHEP ers dechrau’r flwyddyn academaidd hon.

Wedi gweithredu hunanwasanaeth RFID mewn dwy lyfrgell yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2008/09, aeth y safle nesaf - Llyfrgell Owen ym Mhrifysgol Fetropolitan ym Mount Pleasant – yn fyw yn ystod gwyliau’r Pasg 2009, a chafodd y tri safle a oedd ar ôl eu gweithredu yn ystod gwyliau’r haf, gan orffen â Chanolfan Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe, lle bu’n rhaid paratoi dros 750,000 o eitemau o’r deuddeg mis diwethaf ar gyfer RFID.

Mae ymateb defnyddwyr i RFID wedi bod yn gadarnhaol, a gwelwyd cynnydd yn y nifer o fenthyciadau o’r unedau hunanwasanaeth. Mae’r gorsafoedd hunan fenthyg hefyd yn caniatáu talu dirwyon â chardiau credyd, sydd i’w weithredu yn gynnar yn 2010.

LIS RFID machine