SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Darganfod adnoddau a rennir

Rhan o gylch gwaith prosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir yw darparu mynediad a rennir at gatalogau llyfrgell ac, os yw’n ddichonadwy, e-adnoddau, gan greu “siop-un-stop” er mwyn i staff a myfyrwyr ddod o hyd i’r deunydd sydd ei angen arnynt ni waeth pa sefydliad SWWHEP sy’n ei gadw.

Ar hyn o bryd, mae’r tri gwasanaeth llyfrgell yn defnyddio gwahanol systemau rheoli llyfrgell (SRhLl) i reoli eu stoc a darparu catalog mynediad cyhoeddus ar-lein (CMCA) i ddefnyddwyr. Yn ogystal, maent yn defnyddio amrywiaeth o wahanol offer i chwilio am, a chyflenwi, deunyddiau eraill, fel e-gyfnodolion.

Bydd y llinyn darganfod adnoddau a rennir o brosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir yn cynhyrchu catalog cyhoeddus unedig, ar-lein sy’n cwmpasu holl stoc y tair llyfrgell ac yn darparu rhyngwyneb chwilio newydd, modern i ddefnyddwyr, sy’n cynnwys nodweddion gwell a thechnoleg Web2.0. Bydd cofnodion catalog o’r tair system bresennol yn cael eu casglu a’u cyfuno mewn un gronfa ddata gatalog, â dolenni tryloyw yn ôl i’r SRhLlau unigol er mwyn caniatáu i ddefnyddwyr wirio argaeledd eitemau a gwneud ceisiadau. Bydd yr un rhyngwyneb yn darparu gallu chwilio ffederal, gan ganiatáu i ddefnyddwyr chwilio nifer fawr o gyfnodolion electronig ac e-adnoddau eraill gydag un ymholiad ac yna cysylltu â chanlyniadau testun llawn lle maent ar gael.

Er mwyn darparu’r gallu chwilio gwell, symlach hwn, mae’r Llyfrgell Academaidd Rithwir wedi prynu’r cynnyrch chwilio ffederal a chysylltu e-adnoddau sy’n arwain y diwydiant, Metalib a SFX oddi wrth y cyflenwr systemau llyfrgell, Ex Libris.

Bydd y catalog cyfunedig o ddaliadau’r llyfrgelloedd eu hunain yn cael ei ddarparu gan gatalog Ffynhonnell Agored y genhedlaeth nesaf, VuFind, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Villanova yn yr Unol Daleithiau. Bydd y defnydd o gynnyrch ffynhonnell agored yn caniatáu i staff SWWHEP ddatblygu eu gwelliannau eu hunain er mwyn diwallu anghenion penodol y llyfrgell rithwir, y gellir eu bwydo yn ôl i’r gymuned ffynhonnell agored.

VuFind_grab