Cysylltiadau allweddol
Prosiect Llyfrgell Academaidd Rithwir – Cysylltiadau
Paul Johnson
Rheolwr Prosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir
Ffôn : 01792 513196
E-bost: j.p.johnson@swansea.ac.uk
Bywgraffiad Byr – Paul Johnson
Dechreuodd Paul ei yrfa fel Cynorthwy-ydd Llyfrgell yn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Dyfnaint ac yna yng Ngholeg Polytechnig Gogledd Llundain, cyn symud ymlaen i gyfnod hir gyda’r cyflenwyr systemau llyfrgell SLS (Information Systems) ac Innovative Interfaces. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ganddo rolau amrywiol fel dadansoddwr cymorth cwsmeriaid, dadansoddwr/rhaglennwr, rheolwr prosiect a rheolwr gwasanaethau gweithredu a throsi data.
Mae Paul wedi bod yn gweithio i Bartneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru fel ‘Rheolwr Prosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir’ ers mis Chwefror 2009.
Luke O’Sullivan - Swyddog Systemau’r Llyfrgell Academaidd Rithiol
Virtual Academic Library Systems Officer
Tel / Ffon: 01792 602772
Email: l.osullivan@swansea.ac.uk
Ar ôl cwblhau gradd Hanes yn 2002, dechreuodd Luke ei yrfa â Waterstones BookSellers yn Abertawe. Arweiniodd y profiad a gafodd yno at swydd fel Swyddog Cymorth i Ddysgwyr ac E-Adnoddau â Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Dinas a Sir Abertawe. Dros gyfnod o 5 mlynedd cymerodd Luke ran mewn nifer o brosiectau gan gynnwys sefydlu Rhwydwaith y Bobl a chaffaeliad system rheoli llyfrgell newydd a datrysiad hunanwasanaeth RFID. Roedd ei ddyletswyddau arferol yn cynnwys hyfforddi staff a’r cyhoedd, addasu catalogau ar-lein ac hunanwasanaeth a datblygu adnoddau’r llyfrgell rithiol. Ar ôl cwblhau PGCE mewn Addysg Gynradd yn 2008, penodwyd Luke yn Swyddog Systemau’r Llyfrgell Academaidd Rithiol yn 2009.

