Cyflennwi Dogfennau
Er mwyn annog rhyng-ddefnyddioldeb stoc llyfrgelloedd SWWHEP, mae prosiect y Llyfrgell Academaidd Rithwir yn cynnwys gwasanaeth cyflenwi dogfennau, a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud cais am eitemau mewn un llyfrgell a threfnu iddynt gael eu cyflenwi i lyfrgell arall, neu wneud cais am i eitemau ffisegol gael eu postio i’w cartref ac i ddeunydd electronig gael ei e-bostio atynt.
Roedd Prifysgol Abertawe eisoes yn gweithredu gwasanaeth Dysgwyr o Bell a Gydol Oes yn Abertawe (DALLAS), a oedd yn darparu gwasanaethau cyflenwi drwy’r post i rai myfyrwyr. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys ym mhrosiect SWWHEP a’i ehangu i gwmpasu Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod.
Cam cyntaf y broses weithredu oedd darparu gwasanaeth cyflenwi ffisegol rhwng y tri sefydliad, a gyflawnwyd ym mis Awst 2008. Bydd gwasanaeth newydd, gwell i drafod ceisiadau yn cael ei ddarparu drwy gyflwyno meddalwedd ILL (Benthyca Rhwng Llyfrgelloedd) Relais, y disgwylir iddi gael ei gweithredu’n llawn erbyn haf 2009.