SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Header image

Gwasanaethau Llyfrgell SWWHEP

Mae gwasanaethau llyfrgell Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Prifysgol Cymru Y drindod Dewi Sant, yn cydweithredu i greu Llyfrgell Academaidd Rithwir unigryw.  Mae wedi’i hariannu gan Gronfa Ad-drefnu a Chydweithredu CCAUC sydd hefyd yn cefnogi deuddeg o brosiectau pellach ar draws y tri sefydliad, gan amrywio o gydweithredu ar e-ddysgu i integreiddio cofnodion myfyrwyr.

Mae’r Llyfrgell Academaidd Rithwir yn brosiect tair blynedd â chyllideb o dros £1 miliwn.  Ei nod fydd ymagwedd gyfannol at wasanaethau llyfrgell i bob un o’r 17,000 o fyfyrwyr addysg uwch a’r 1200 o staff academaidd yn Ne Orllewin Cymru, wedi’i seilio ar adnoddau a mynediad a rennir.

Bydd y prosiect yn cyflawni:

• Cydfenthyca i’r holl staff a myfyrwyr
• Cyflenwi dogfennau yn gorfforol ac yn electronig rhwng y tri sefydliad
• Mynediad a rennir at gatalogau llyfrgelloedd ac, os yw’n ddichonadwy, e-adnoddau
• Gweithredu technoleg RFID ym mhob un o’r tri gwasanaeth llyfrgell
• Storio deunydd ymchwil defnydd isel ar y cyd
• Archwilio cyfleoedd ar gyfer rheolaeth sengl gwasanaethau rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe
• Ymagwedd gydgysylltiedig at ddatblygu staff
• Gweithredu gwasanaethau newydd a datblygu prosesau ar y cyd

Bydd y synergedd rhwng y Llyfrgell Academaidd Rithwir a llyfrgelloedd mewn sectorau eraill yn y rhanbarth o fewn Partneriaeth Lyfrgelloedd newydd De Orllewin Cymru a ariennir gan CYMAL, yn cael ei ddatblygu hefyd.