Sylfaen Wybodaeth
Ochr yn ochr â’r System Gymuned, mae tîm SWWHEP wedi bod yn gweithio i ddatblygu system sylfaen wybodaeth a fydd, o bosibl, yn brif sianel gymorth a lledaenu ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth e-Ddysgu. Mae cam cyntaf y gweithgarwch hwn wedi canolbwyntio ar ddatblygu Canolfan Gymorth ar gyfer Blackboard a chymorth e-Ddysgu cyffredin, lle gall staff a myfyrwyr chwilio gan ddefnyddio iaith Gymraeg neu Saesneg gyffredin.
Lle nad yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i ateb yn gyflym, gallant lenwi cais am gymorth ar-lein a fydd yn cael ei gyfeirio at y person priodol yn eu sefydliad eu hunain gan ddibynnu ar natur y cwestiwn. Cyn hyn, ychydig o ran cymorth ar-lein i ddefnyddwyr Blackboard oedd ar gael gan ddau o’r sefydliadau ac roedd y llall yn dibynnu ar Gwestiynau Cyffredin sefydlog lle’r oedd yn anodd dod o hyd i’r hyn yr oedd ei angen ar ddefnyddwyr. Am y rheswm hwn, penderfynwyd y byddem yn gweithredu fersiwn beta o’r Ganolfan Gymorth newydd cyn gynted ag y byddai cyfnod arholiadau mis Mehefin drosodd.
Ychwanegir at y sylfaen wybodaeth, a bydd yn cael ei gwella, drwy adborth gan ddefnyddwyr yn ystod yr haf, a bwriedir rhyddhau fersiwn derfynol wedi’i theilwra’n fwy i gyd-fynd â rhyddhau’r System Gymuned ym mis Medi.

Ni chynlluniwyd ar gyfer y system gymorth yn y cais ond mae wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall y tri sefydliad gydweithio i ddarparu cyfleuster cymorth mwy cadarn mewn ffordd gosteffeithiol. Gydag amser, bydd rhannau eraill o’r Sylfaen Wybodaeth yn cael eu datblygu, gan ganolbwyntio ar enghreifftiau o arfer da a adnabuwyd gan staff a myfyrwyr ar draws y tair canolfan, ac a rennir ganddynt.
I gael gwybodaeth fanylach am Brosiectau Blackboard pob un o’r 3 sefydliad, dilynwch y dolenni isod :