Prosiect E-ddysgu SWWHEP
Bydd y Cydweithrediad hwn yn sefydlu Canolfan Ragoriaeth E-ddysgu ar gyfer y tri Sefydliad a fydd wedi’i lleoli yng Ngwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, Prifysgol Abertawe. Bydd y ganolfan yn adeiladu ar y ganolfan gymorth sydd eisoes wedi’i sefydlu yn PA. Bydd y ffocws ar weithio’n agos iawn gyda’r staff academaidd ym mhob un o’r tri Sefydliad i ddatblygu ac ymwreiddio e-ddysgu yng nghwricwlwm a diwylliant y tri sefydliad. O ganlyniad i waith cynllunio cychwynnol a oedd yn cynnwys pob un o’r tri phartner ac ymgynghorydd o Blackboard mae’r prosiect wedi esblygu i dri cham amlwg.
1. Sefydlu a rhoi Swît Academaidd Blackboard v8 ar waith ym mhob un o’r tri sefydliad – bydd hyn yn hwyluso gwaith cydweithrediadol haws ar draws y sefydliadau ar lefel academaidd. Ar yr ochr weinyddol bydd yn canoli’r rheolaeth dechnegol, ac yn galluogi hyfforddiant a chymorth a rennir ar gyfer Blackboard i gael ei sefydlu, gan gynnwys sefydlu sail wybodaeth ar-lein i ddarparu mwy o gymorth mewn mannau lle ceir angen.
2. Datblygu gosodiadau Blackboard er mwyn manteisio i’r eithaf ar nodweddion newydd yn y Systemau Dysgu, Cymuned a Chynnwys. Bydd y tair rhan gydgysylltiol hyn o’r swît Academaidd yn galluogi pob sefydliad i gyflenwi gwasanaethau drwy Blackboard sy’n adlewyrchu anghenion dysgwyr yn well. Mae’r tair cydran yn bwerus ac yn gymhleth a bydd rhaglen dreigl o weithgorau i ddatblygu’r atebion mwyaf effeithiol. Bydd nifer o’r grwpiau hyn yn rhai traws-sefydliadol er mwyn rhannu profiad ac arbenigedd a byddant yn cynnwys academyddion, myfyrwyr a staff gweinyddol a byddant yn cael eu hwyluso gan staff Cymorth e-Ddysgu.
3. Sefydlu a datblygu canolfan adnoddau e-Ddysgu rithwir (canolfan ragoriaeth). Bydd gwaith i’w sefydlu yn dechrau yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 08/09 ochr yn ochr â datblygu Blackboard. Nid yw union natur, strwythur gweithredol nac enw’r sefydliad wedi’u cytuno gan y partneriaid eto, ond ei nod cyffredinol fydd darparu adnodd e-Ddysgu a rennir a Chymuned Arfer ar draws y sefydliadau partner. Yn ei hanfod, bydd yn ganolfan rithwir a gefnogir gan staff y prosiect ar draws y tri sefydliad. Y cylch gorchwyl fydd hwyluso e-Ddysgu yn ei ystyr ehangaf a helpu pob sefydliad i ymwreiddio e-Ddysgu yn eu fframwaith a’u diwylliant lleol.