Hysbysiadau
Ydy hi’n bryd ar gyfer eich Gwerthusiad Staff?
Wed, 10 Feb 2010 10:52:00 GMT
Mae’n gyffredin i nifer o staff ym mhob un o’r tair Prifysgol Bartner baratoi ar gyfer ac ymgymryd eu Gwerthusiad Staff (fel arfer â’u Rheolwr neu rywun a neilltuir yn arbennig) yr adeg hon o’r flwyddyn ac ar gyfer y misoedd sy’n arwain at Ebrill/Mai.
I’r sawl a gwblhaodd Gwerthusiad Staff yn 2009, mae’r llyfryn hefyd yn cynnig syniadau ar gyfer cyrsiau sydd ar gael i gwrdd â rhai o’r amcanion y byddech o bosib wedi’u cofnodi yn y Gwerthusiad hwnnw.
Yn ogystal â hyn, gall nifer o staff ddefnyddio’r llyfryn Update er mwyn annog a helpu â syniadau cyn y Gwerthusiad Staff ei hun ac wrth gasglu syniadau ar ei gyfer.
Beth am gymryd 5 munud i edrych ar yr ystod eang o gyfleoedd dysgu sydd ar gael drwy glicio yma.
Yn ogystal â’r llyfryn ar gyfer 2010 byddwn yn defnyddio E-byst i’ch atgoffa o’r dyddiadau y mae’r cyrsiau yn y llyfryn yn cael eu cynnal ac i roi gwybod i chi ynglyn ag unrhyw gyrsiau ychwanegol a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ond sydd heb eu hysbysebu yn Update.