SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Y Prosiect Datblygu Staff – golwg gyffredinol

Croeso i wefan Datblygu Staff SWWHEP

Mae’r wefan hon wedi’i dylunio i gefnogi dau brif grwp o bobl wrth gael mynediad i gyrsiau ac archebu llefydd ar gyrsiau:

  • Staff sy’n gweithio i Fusnesau Lleol Maint Bach i Ganolig (cyfeirir atynt fel staff BBaCh drwy gydol y wefan)
  • Staff sy’n gweithio mewn un o dri sefydliad partner SWWHEP (Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyfeirir atynt fel staff SWWHEP)

Ystyr SWWHEP yw ‘Partneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru’ ac mae’r prosiect Datblygu Staff yn bodoli i uchafu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r sefydliadau partner a’u staff drwy rannu arbenigedd, rhaglenni a digwyddiadau Datblygu Staff, ac i gynnig cyfle i bobl sy’n gweithio mewn Busnesau Bach i Ganolig (BBaChau) i archebu rhai o’r cyrsiau hyn a’u mynychu.

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect yn ei gyfanrwydd ewch i dudalen hafan  SWWHEP.

Gwybodaeth bellach i staff sy’n gweithio i Fusnesau Bach i Ganolig (BBaChau)

Mae prosiect Datblygu Staff SWWHEP yn darparu ystod eang o gyrsiau i aelodau staff sy’n gweithio yn nhair Prifysgol partner SWWHEP OND mae sawl un o’r cyrsiau hyn hefyd ar gael i chi fel aelod o staff sy’n gweithio mewn Menter Fach i Ganolig (BBaCh) neu fusnes bach.  

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y cyrsiau sydd ar gael, sut i’w harcheb a sut i ddod o hyd i ni gan ddefnyddio’r botymau ar y ddewislen ar yr ochr chwith ‘for SME staff’.

Ceir rhagor o wybodaeth i staff sy’n gweithio mewn sefydliadau SWWHEP

Fel Prosiectau SWWHEP eraill, nid yw’r prosiect Datblygu Staff yn gweithredu o fewn ffurfioldeb y fframwaith Rheoli Prosiectau ehangach h.y. amcanion penodol (yn bennaf ‘polisi, gweithdrefnau a systemau’ ystafell gefn), er, gobeithir y bydd staff yn gallu elwa yn syth o’r rhaglen a rennir sydd ar gael i’r holl staff sy’n gweithio mewn un (neu fwy) o Sefydliadau Partner SWWHEP.

Gwneir staff yn ymwybodol hefyd o gyfleoedd ‘newydd’ ac ‘ychwanegol’ yn ogystal â’r rhai hynny a gynhwysir yn y llyfryn rhaglenni a rennir (Update) drwy e-byst atgoffa a diweddariadau.