Cwrdd â Thîm y Cynfyfyrwyr
Mae pedwar aelod o staff SWWHEP wedi’u cyflogi ar gyfer y prosiect penodol hwn, sef:
Cydlynydd y Cynfyfyrwyr - yn gyfrifol am weithio gyda swyddfeydd y cynfyfyrwyr ym mhob un o’r tri sefydliad i gynorthwyo wrth ddatblygu gwell gwasanaeth a gwell cyfathrebu gyda’r cynfyfyrwyr, yn ogystal â rhannu arfer gorau ac argymhellion ym maes cysylltiadau cynfyfyrwyr.
Swyddog Digwyddiadau a Recriwtio Rhyngwladol - yn gyfrifol am adnabod anghenion recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ym mhob un o’r tri sefydliad, gan hyrwyddo’r sefydliadau ymhlith myfyrwyr tramor a datblygu’r cynllun llysgennad cynfyfyrwyr rhyngwladol.
Swyddog Data – yn gyfrifol am gloddio data.
Swyddog Technegol RhCC – yn gyfrifol am ddarparu’r cymorth technegol sydd ei angen i weithredu’r system RhCC a throsglwyddo data.
