Yr hanes hyd yma
Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
Ers dechrau prosiect SWWHEP, mae pob un o’r tri sefydliad partner wedi rhoi cronfa ddata CRM newydd ar waith, sydd wedi galluogi timau’r cynfyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â’u cynfyfyrwyr yn well. Anfonwyd arolwg i gynfyfyrwyr allan ym mis Rhagfyr 2009, a bydd ei ganlyniadau yn helpu i benderfynu ar weithgareddau i gynfyfyrwyr yn y dyfodol. Mae holiaduron Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn dal i fod yn agored a gallwch eu llenwi yma:
PA: http://questionnaires.swansea.ac.uk
PFA: http://questionnaires.smu.ac.uk
Cymdeithasau
Mae cymdeithasau cynfyfyrwyr ar gyfer pob un o’r tri sefydliad wedi’u sefydlu drwy amrywiaeth o offer rhwydweithio ar-lein. Mae’r cyfleuster hwn wedi’i gynllunio i ganiatáu i gynfyfyrwyr greu a datblygu micro-gymunedau ar draws y byd. Mae digwyddiadau i gynfyfyrwyr hefyd yn cael eu trefnu i gynnig cyfleoedd rhwydweithio cymdeithasol a busnes. I gael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau a digwyddiadau sydd i ddod, ewch i wefannau cynfyfyrwyr y sefydliadau partner. Gellir cael eu manylion isod.
Cadwch olwg am …
- Dudalennau gwe gwell a rhyngweithiol
- Digwyddiadau yn y DU a digwyddiadau rhyngwladol i gynfyfyrwyr
- Cynigion a gostyngiadau ychwanegol i gynfyfyrwyr
- e-gylchlythyron a chylchgrawn y cynfyfyrwyr ar eu newydd wedd
I ddarganfod mwy am gysylltiadau cynfyfyrwyr ym mhob un o sefydliadau SWWHEP, dilynwch y dolenni isod:
Prifysgol Cymru Y Drindod dewi Sant
http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
http://alumni.smu.ac.uk
Prifysgol Abertawe
www.swan.ac.uk/alumni

