Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol
Prif ffocws elfen recriwtio myfyrwyr rhyngwladol y cydweithrediad yw datblygu’r Cynllun Llysgennad Cynfyfyrwyr Rhyngwladol.
Gwahoddir cynfyfyrwyr rhyngwladol i ddod yn llysgenhadon dros eu prifysgol er mwyn rhannu eu profiadau fel myfyrwyr a chynnig cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n ystyried astudio yn Ne Orllewin Cymru. Rhoddir cyfle i lysgenhadon gymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys cynorthwyo staff y brifysgol mewn ffeiriau recriwtio rhyngwladol a sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a’u rhieni, ateb ymholiadau gan fyfyrwyr drwy e-bost a darparu proffiliau gyrfaoedd i ddangos sut y maent wedi elwa o’u profiad tramor.
Bydd cynllun y llysgennad yn ffordd wych o alluogi myfyrwyr rhyngwladol i gadw mewn cysylltiad â’u prifysgol ar ôl iddynt raddio, a helpu i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol y dyfodol yn cael amser yr un mor gofiadwy â nhw.
Dolenni i Dudalennau Gwe Rhyngwladol pob sefydliad:
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
www.ydrindoddewisant.ac.uk
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
www.smu.ac.uk/sihe/international/welcome.htm
Prifysgol Abertawe
www.swan.ac.uk/international

