Cynfyfyrwyr SWWHEP
Mae elfen cynfyfyrwyr y cydweithrediad yn cwmpasu nifer o ddatblygiadau allweddol â’r nod o wella gwasanaethau’r sefydliadau partner i gynfyfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys: rhoi cronfeydd data rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) newydd ar waith a gwella gwefannau’r cynfyfyrwyr i ganiatáu mwy o ryngweithiad rhwng cynfyfyrwyr a swyddfa’r cynfyfyrwyr.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd gan gynfyfyrwyr fwy o allu i gyfathrebu â’i gilydd; dod i gysylltiad eto â hen ffrindiau, trefnu aduniadau a rhannu atgofion o’u hamser yn y brifysgol.
Mae’r prosiect cyffrous hwn eisoes wedi bod o fudd i gynfyfyrwyr hirsefydlog, yn ogystal â graddedigion diweddar y tri sefydliad, sydd wedi arwain at gynlluniau hyd yn oed mwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.
Dolenni i Dudalennau Gwe Rhyngwladol pob sefydliad:
Coleg Y Drindod Caerfyrddin
alumni.trinity-cm.ac.uk
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
www.smu.ac.uk/alumni
Prifysgol Abertawe
www.alumni.swansea.ac.uk
