Cynfyfyrwyr a Myfyrwyr Rhyngwladol
Nod y cydweithrediad Cynfyfyrwyr a Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol yw gwella cyfathrebu gyda chynfyfyrwyr y tri sefydliad partner, gwella lefel y gwasanaeth sydd ar gael iddynt, a’u helpu i gadw eu hatgofion o’u bywydau fel myfyrwyr yn fyw.
Yn ganolog i’r prosiect y mae gweithredu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid newydd a fydd yn galluogi staff swyddfa’r cynfyfyrwyr i gyfathrebu’n fwy effeithiol gyda chynfyfyrwyr.
Bydd Cynllun Llysgennad Cynfyfyrwyr Rhyngwladol hefyd yn cael ei ddatblygu, lle bydd cynfyfyrwyr yn rhyngweithio gyda darpar fyfyrwyr rhyngwladol drwy ddarparu gwir ddarlun o sut brofiad ydyw i fyw ac astudio yn Ne Orllewin Cymru.
