Newyddion
Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
Rhoddodd Prifysgol Fetropolitan Abertawe ei mynegiad cryfaf eto o’i galluoedd amgylcheddol â gosod system solar ffotofoltäig ar ei champws yn Mount Pleasant.
Yn dilyn caniatâd cynllunio llwyddiannus, gosodwyd y paneli ar do Llyfrgell Owen y Brifysgol yn ystod gwyliau’r Pasg gan gwmni o Henffordd, Greenearth Energy. Bydd y system, a wneir o bedwardeg a phump o baneli, yn cynhyrchu 8.1kW o drydan a fydd yn cyfrannu at bweru’r llyfrgell.
Dywedodd Cydlynydd Ynni SWWHEP, Mark Blackmore: “Bydd arddangosfa amser real yn y llyfrgell yn dangos yr hyn y mae’r paneli yn ei gynhyrchu ar unrhyw un adeg. Bydd y paneli wedi’u cysylltu i’r rhyngrwyd fel bod modd edrych ar y trydan y maent yn cynhyrchu o bell a chaiff y wybodaeth ei defnyddio mewn darlithoedd o fewn Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol y Brifysgol, lle y maen nhw’n dysgu rhaglenni adeiladu a chadwraeth amgylcheddol.
Gan nad oes gan systemau solar ffotofoltäig unrhyw gydrannau sy’n symud, maen nhw’n ddibynadwy iawn ac ychydig iawn o waith cynnal sydd angen arnynt. Mae cyfnod gwarant y paneli, o safbwynt allbwn pwer, yn parhau am gyfanswm o bum mlynedd ar hugain o’r dyddiad prynu - y deng mlynedd gyntaf ar 90% allbwn pwer cyfradd lleiafswm a’r pymtheg blynedd sy’n weddill ar 80% allbwn pwer cyfradd lleiafswm.
Aeth Mark ymlaen: “Nid yw modiwlau solar ffotofoltäig yn marw ar ôl y cyfnod hwn ac yn ôl pob tebyg byddant yn darparu gwasanaeth defnyddiol am flynyddoedd i ddod. Mae gan y gwrthdroyddion bywyd defnyddiol hyd at o leiaf tri deg o flynyddoedd. Fel system sydd wedi’i gysylltu i’r grid, caiff trydan ei ddefnyddio’n uniongyrchol o fewn yr adeilad wrth iddo gael ei gynhyrchu. Ar adegau pan fo’r galw am drydan yn llai na’r swm a gynhyrchir, caiff trydan ei allyrru i’r grid cenedlaethol.”
Dywedodd Rheolwr Amgylchedd Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Elizabeth May: “Daw 50% o gost y system o ‘Raglen Adeiladu Carbon Isel’ y Llywodraeth a’r hanner arall o gronfeydd y Brifysgol ei hun, sy’n dangos ein hymrwymiad at gynaliadwyedd.”
O fewn yr wythnos ddiwethaf, mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe wedi derbyn Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am ei rheolaeth amgylcheddol. Cafodd hyn ei gyhoeddi gan Groundwork, dechreuwyr ardystiad y Ddraig Werdd a rhwydwaith adfywio amgylcheddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol blaenllaw sy’n adeiladu cymunedau cynaliadwy ar draws Gymru. Llynedd, cyflwynodd y Brifysgol generadur pwer gwynt a haul bach i un o oleuadau allanol y campws, symbol bach ond hanfodol o fwriad amgylcheddol Prifysgol Fetropolitan Abertawe.
Mae ffigyrau a ryddhawyd y llynedd yn dynodi bod Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn cynhyrchu’r ffigyrau gorau yn y DU am ddefnydd ynni isel. Dangosodd Ystadegau Rheoli Ystadau’r Addysg Uwch (EMS) ar gyfer 2007/8 bod y Brifysgol yn defnyddio llai o ynni bob metr sgwâr nag unrhyw sefydliad addysg uwch yn y DU.
Yn ogystal, cynhyrchodd Brifysgol Fetropolitan Abertawe'r ffigyrau lleihau carbon gorau yng Nghymru, ac ymhlith y pedwar ar ddeg uchaf yn y Du. Mae’r ffigyrau hyn yn dangos effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd o fewn y sefydliad, a anelir at staff a myfyrwyr, yn ymdrin â materion megis cynaliadwyedd ac ailgylchu. Eleni, mae’r Brifysgol wedi cofrestru ar gyfer yr ymgyrch lleihau carbon genedlaethol 10:10, gyda deg wythnos o weithgareddau yn codi ymwybyddiaeth ar y campws.
Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn ennill gwobrau yn gyson am ei hymdrechion amgylcheddol, yn derbyn cymeradwyaeth mewn digwyddiadau megis y Green Gown Awards mawreddog, Gwobrau Dinasyddiaeth Fyd-eang NIACE/Cyfanfyd, Gwobrau SWWITCH Travel a gwobrau Abertawe Cynaliadwy.
Dywedodd yr Athro David Warner, Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe, “Mae gennym agwedd rhagweithiol iawn yma ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe o safbwynt lleihau defnydd ynni ac rydym yn defnyddio llawer o dactegau gwahanol ac arloesol. Nid dim ond cyfrannu at faterion ehangach y blaned y mae'r rhain ond ein helpu i arbed cryn dipyn o arian hefyd.”
Digwyddiadau Diweddaraf
- Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
- Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
- Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
- Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerl
- Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle ti
