Hysbysiadau
Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
Fri, 27 Nov 2009 13:32:00 GMT
Cynhaliwyd digwyddiad am ddim ddoe i helpu busnesau Cymraeg arbed arian trwy ddod yn fwy cynaliadwy a denwyd nifer o brif gwmnïoedd De Cymru.
Bwriad y digwyddiad Lleihau Gwastraff a Chynyddu Elw, a drefnwyd gan Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig ac a gynhaliwyd yn adeilad Technium Technolegau Cynaliadwy ym Maglan, Port Talbot oedd helpu busnesau i guro’r wasgfa gredyd, cynyddu eu helw ac achub yr amgylchedd.
Derbyniodd y Bartneriaeth, cydweithrediad rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Coleg y Drindod, gymorth gan yr Athro Karen Morrow, arbenigwr yng Nghyfraith yr Amgylchedd, a drafododd sut y gall newidiadau i ddeddfwriaeth a phroffwydo tueddiadau’r dyfodol yng Nghyfraith yr Amgylchedd arbed arian i fusnesau; Jan Morgan, cynrychiolydd tîm Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, a redodd weithdy i ddangos i sut y gall sefydliadau elwa trwy ddilyn nifer o egwyddorion cynaliadwy; a Mark Blackmore, arbenigwr cynaliadwyedd o Bartneriaeth Addysg Uwch De Orllewin Cymru, a ganolbwyntiodd ar ddeg awgrym ar sut i guro’r wasgfa gredyd yn ei weithdy yntau.
Pistop Automotive a seilir yn Abertawe oedd un o’r busnesau cyntaf i gofrestru am y digwyddiad a buont yn rhannu eu profiadau a’u harferion gorau â chwmnïoedd yn y digwyddiad.
Dywedodd Jeremy Thorne, un o Gyfarwyddwyr Pitstop Automotive: “Wrth sefydlu ein cwmni a thrafod yr effaith sydd gan olchi ceir ar yr amgylchedd fel arfer roedd hi’n gwneud synnwyr – o safbwynt busnes a chynaliadwyedd – i sicrhau fod Pitstop yn wahanol. Roeddwn am rannu ein llwyddiant â busnesau eraill a helpu i arddangos sut y gall bod yn gynaliadwy gynyddu elw yn ogystal â chreu cyfleoedd marchnata a llifoedd refeniw.
“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i wneud hynny a hefyd i ni ganfod beth mae busnesau eraill yn yr ardal yn ei wneud. Agorodd ein llygaid hefyd i’r ymchwil sy’n cael ei gwneud ym mhrifysgolion lleol sy’n fuddiol iawn i ddiwydiant.”
Dywedodd Rachel Williams, Swyddog Cyfathrebu a threfnydd digwyddiadau Partneriaeth Arloesi’r Ddraig: “Roedd y digwyddiad yn gyfle i fusnesau yng Nghymru elwa o arbenigedd diwydiannol ac academaidd. Roedd hi’n braf iawn gweld cymaint o fusnesau a sefydliadau gwahanol gyda’i gilydd, o orsafoedd radio a chyflenwyr offer swyddfa i gwmnïoedd adeiladu, yn dangos cyfrifoldeb am eu holion traed carbon ac yn rhannu eu harbenigedd.
“Buom hefyd yn ddigon ffodus i dderbyn cymorth gan sawl busnes â ffocws ar yr amgylchedd gan gynnwys Track You, Footprintmatters2u, Natural Power Wales a Gregory Environmental.
“Roedd heddiw yn llwyddiant mawr a chafodd y digwyddiad ei dderbyn yn dda gan y cynrychiolwyr. O ganlyniad i hyn, ac yn sgil y galw llethol am lefydd, rydym yn barod yn dechrau trefnu digwyddiad tebyg ar gyfer y dyfodol agos iawn.”
Os hoffech fynegi eich diddordeb yn nigwyddiadau’r dyfodol ynghylch Lleihau Gwastraff a Chynyddu Elw, dylech gysylltu â Rachel Williams ar 01792 606060 neu r.williams@abertawe.ac.uk.

Digwyddiadau Diweddaraf
- Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
- Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
- Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
- Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerl
- Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle ti
