Newyddion
Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
Ydych chi'n gofyn i’ch hunan weithiau, a yw fy holl waith caled yn ailgylchu yn werth yr ymdrech?
Wel, diolch i wybodaeth gan ein contractwr gwastraff, Veolia Environmental, gallwn eich diweddaru o hyn ymlaen ynghylch faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu ac yn ei anfon i safle tirlenwi.
Gallwch ddefnyddio'r graffiau isod i dracio ein cynnydd. Rydym wedi seilio'r wybodaeth hon ar y gwastraff sy'n cael ei anfon i'n biniau gwastraff cyffredinol ac i'n biniau olwyn ailgylchu oherwydd, p'un ai ydych yn fyfyriwr neu'n aelod o'r staff, rydych chi'n cyfrannu'n uniongyrchol iddo drwy eich gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru yn 2007/2008 oedd 29%, felly o gymharu â’r ffigur hwn rydym yn gwneud yn eitha’ da. Y targed ar gyfer ailgylchu yng Nghymru yn 2009/2010 yw 40%, felly mae'n bwysig iawn ein bod, bob un, yn gwneud ein rhan yn y gwaith ac yn y cartref.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch ei chynlluniau i osod targedau llawer uwch i bob unigolyn a sefydliad yng Nghymru er mwyn cyrraedd ailgylchu o 70% erbyn 2025. Gallwch roi eich barn i'r Llywodraeth yma.
Digwyddiadau Diweddaraf
- Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
- Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
- Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
- Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerl
- Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle ti
