Newyddion
Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle tirlenwi o 30%
Mae menter a ddatblygwyd gan Anna Rawlings, y Swyddog Adnoddau ac SRA, Bob Lewis, Rheolydd Campws Mount Pleasant yn PFA, a Steve Donne, yr Uwch Swyddog Ategol, wedi lleihau maint y sbwriel a anfonir o'r campws i'r safle tirlenwi o dreian ers Chwefror 2009.
Roedd y fenter yn golygu ad-drefnu'r biniau yn yr ardaloedd addysgu, swyddfa a chymunedol drwy'r holl gampws. “Yn draddodiadol, rydym wedi ei gwneud yn hawdd i'r staff a'r myfyrwyr anfon eu sbwriel ailgylchadwy i safle tirlenwi trwy roi basgedi sbwriel ym mhob swyddfa ac ystafell ddosbarth, tra roedd y biniau ailgylchu yn cael eu gosod mewn mannau cymharol anghyfleus mewn coridorau," meddai Anna Rawlings. “Roeddem am wyrdroi'r ffocws hwn trwy osod biniau sbwriel ailgylchu yn y swyddfeydd a'r ystafelloedd dosbarth, a rhoi’r biniau safle tirlenwi mewn mannau llai cyfleus.”
Yn ôl data a gasglwyd ym Mhrifysgol Brighton yn 2001, mae tua 98% o’r gwastraff a gynhyrchir mewn ardaloedd ystafell ddosbarth a swyddfa yn addas ar gyfer eu hailgylchu yn system ailgylchu gymysg y tair Prifysgol bartner. Er gwaethaf hyn, dim ond tua 30% o'i gwastraff mae'r bartneriaeth yn ei ailgylchu bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Lluniwyd y cynllun Newid Biniau Mawr drwy ymgynghori â'r glanhawyr a'r Swyddog Iechyd a Diogelwch, cynnal arolwg o'r biniau oedd yn eu lle ar y pryd ac o'r newidiadau fyddai angen eu gwneud, darparu biniau newydd ble byddai angen, labelu pob bin â sticeri a ddyluniwyd gan y Swyddog SRA ac Adnoddau, a rhoi gwybod i'r holl staff am y newidiadau.
“Rwyf yn fodlon iawn,” meddai Bob Lewis, “o fewn wythnos neu ddwy, roedd yn rhaid i mi ofyn i'n contractwr gwastraff newid dau o'n biniau olwyn 1100 litr ar gyfer sbwriel safle tirlenwi am nad oeddem yn eu defnyddio, tra roedd y biniau ailgylchu’n orlawn.”
“Byddai'r ddau fin olwyn a newidiwyd yn cael eu gwagio tair gwaith yr wythnos, a byddent wedi cynnwys tua 70cg o wastraff bob tro y byddent yn cael eu gwagio,” esboniodd Anna Rawlings. “Gallwn dybio felly bod y Newid Biniau wedi llwyddo i ddargyfeirio dros 400cg yr wythnos oddi wrth y safle tirlenwi, neu tua 15 tunnell yn ystod y flwyddyn academaidd. Rwyf yn awyddus iawn felly i weld systemau tebyg yn cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe, Coleg y Drindod, a champysau eraill PFA.”
Digwyddiadau Diweddaraf
- Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
- Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
- Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
- Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerl
- Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle ti
