SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

This webpage is available in Welsh and English

Newyddion

Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerlyr, ac eraill

Mae Canllaw Gwyrdd tra llwyddiannus SWWHEP wedi dechrau ysbrydoli Prifysgolion eraill i wella'u gwybodaeth  gwastraff ac ailgylchu.  Yn ddiweddar, lansiodd Tîm Amgylchedd Prifysgol Caerlyr, dan arweiniad Dr Emma Fieldhouse, A-Z ar-lein ynghylch gwastraff ac ailgylchu yn seiliedig ar y Canllawiau Gwyrdd a ddatblygwyd y llynedd gan SWWHEP ar ran Prifysgol Abertawe, Met Abertawe, a Choleg Prifysgol y Drindod.

Meddai Dr Fieldhouse, "Mae medru defnyddio syniad a gynhyrchwyd yn rhywle arall o fudd mawr i ni gan fod hyn yn arbed amser ac adnoddau wrth i ni ddatblygu ein fersiwn ein hun. Mae ein fersiwn ar-lein yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ac mae'n gyfeirbwynt canolog ar gyfer popeth sy'n ymwneud â gwastraff ac ailgylchu. Byddwn yn cynhyrchu nifer o gopïau caled i'w dosbarthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn."

Cafodd y Canllaw ei gyflwyno i gynrychiolwyr Cynhadledd Flynyddol EAUC hefyd fel rhan o weithdy ynghylch codi ymwybyddiaeth ymhlith staff a myfyrwyr o fewn sefydliadau addysg uwch a phellach.  Mynegodd nifer o gynrychiolwyr eu diddordeb mewn defnyddio'r Canllaw fel sail i'w canllaw eu hun.  Dywedodd Jan Dyer, Cydlynydd Amgylcheddol Prifysgol Caerwrangon, "Rwyf yn edmygu'r ffordd y mae'r Canllaw Gwyrdd yn cyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol i staff a myfyrwyr, a gobeithiaf y byddwn yn gallu datblygu ein canllaw ninnau yn y dyfodol agos.”