SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

Sustainablity - Cynaliadwyedd
Canllaw Byw’n Wyrdd Ar-lein – i Fyfyrwyr, Staff ac Ymwelwyr’

Croeso i Ganllaw Byw’n Wyrdd 2008/2009 Coleg y Drindod, Caerfyrddin. Deallwn fod ein gweithgareddau’n effeithio ar yr amgylchedd mewn nifer o ffyrdd ac ymdrechwn i leihau’r effeithiau hyn gymaint â phosibl. Dim ond gyda chefnogaeth ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr y gallwn wneud hyn.

Defnyddiwch y dewislenni isod ac ar y chwith i we-lywio’r Canllaw Gwyrdd:

Recycling  Energy  Water  Transport
Sustainability

Hefyd mae’n werth ystyried ei bod yn costio mwy i’r Coleg anfon sbwriel i safle tirlenwi nag i’w ailgylchu. Felly, os ydych yn fyfyriwr preswyl gallwch hefyd ein helpu i gadw costau rhedeg ein neuaddau preswyl lawr drwy ailgylchu cymaint â phosibl, a thrwy ddefnyddio dim ond yr ynni a’r dwr mae’u gwir angen arnoch.

Mae’r canllaw hwn yn llawn o gyngor ymarferol ar sut gallwch helpu, pa un a fyddwch yma i fyw, gweithio, astudio, neu’n ymweld yn unig. A pheidiwch anghofio edrych ar dudalen y Manylion Cyswllt Defnyddiol yn y cefn os oes rhywbeth nad ydych yn sicr ohono neu os bydd unrhyw sylwadau neu awgrymiadau yr hoffech eu trosglwyddo inni. 

Diolch, y Tîm Cynaladwyedd