Cynaliadwyedd
Sefydlwyd y Prosiect hwn er mwyn helpu'r tri Sefydliad partner i wella cynaliadwyedd bywyd ar gampws ar gyfer eu staff a'u myfyrwyr.
Trwy drin cynaliadwyedd mewn ffordd gydweithredol, nod y prosiect yw gwella'r modd y rheolir ein defnydd o ynni a dwr, gwella ailgylchu ac ailddefnyddio cyfleusterau, a chyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth proffil uchel.
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe'n gweithio er mwyn ennill ardystiad i safon 14001 y Sefydliad Rhyngwladol Safoni (ISO) trwy gyflwyno System Reolaeth Amgylcheddol (SRA) a nod y prosiect yw estyn y system hon i Brifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg y Drindod Caerfyrddin.
Cyfarwyddwraig y prosiect yw Elizabeth May, Rheolydd Amgylcheddol Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Swyddogion y Prosiect yw Mark Blackmore ac Anna Rawlings sydd hefyd yn gweithio'n agos gyda Mark Durdin, Peiriannydd Ynni ac Amgylchedd ym Mhrifysgol Abertawe, a Clive Howells, Pennaeth Ystadau yng Ngholeg y Drindod.
Digwyddiadau Diweddaraf
- Mae gan Fyfyrwyr Pwer yr Haul yr Egni i Lwyddo
- Digwyddiad Cynaliadwyedd Prifysgolion yn Denu dros 40 o Fusnesau Lleol
- Faint mae eich Prifysgol chi yn ei ailgylchu?
- Partneriaeth Addysg Uwch De-Orllewin Cymru (SWWHEP) yn ysbrydoli Prifysgol Caerl
- Mae'r Newid Biniau Mawr ar Gampws Mount Pleasant yn lleihau'r gwastraff safle ti

