Gwybodaeth Ychwanegol
Dan y cytundeb cydweithredu, ar ôl derbyn canlyniadau Safon Uwch a chymryd lle yn unrhyw un o’r sefydliadau partner, mae’r myfyrwyr a’u tiwtoriaid yn cysylltu â’r Ganolfan sy’n trawsgrifio’r holl ddeunydd cofrestru, llawlyfrau academaidd, gwybodaeth am fodiwlau a gwybodaeth adrannol er mwyn galluogi’r myfyrwyr i ddewis eu modiwlau.
Mae’r Ganolfan yn cwrdd â’r tiwtoriaid cydgysylltu a’r staff cymorth i bobl anabl, yn cysylltu gyda’r adrannau academaidd ac yn dechrau trawsgrifio’r testunau craidd ar unwaith.
Wedi hynny, mae’r Ganolfan yn ymgynghori’n rheolaidd â’r myfyrwyr a’u tiwtoriaid i bennu blaenoriaethau ar gyfer recordio’r holl destunau nad ydynt yn rhai craidd a deunydd ar gyfer modiwlau dewisol, ac mae’n gwarantu y bydd yn cyflenwi fformatiau amgen o fewn terfynau amser a gytunir ar y cyd.
