SOUTH WEST WALES
HIGHER EDUCATION PARTNERSHIP
Working together to enhance services

PARTNERIAETH ADDYSG UWCH
DE ORLLEWIN CYMRU
Yn gweithio gyda’n gilydd i helaethu a gwella gwasanaethau

This webpage is available in Welsh and English

CRD – Y cyfleusterau

Mae gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe ystafell bwrpasol i fyfyrwyr â nam ar eu golwg sy’n cynnwys cyfrifiaduron personol Pentium rhwydweithiol, argraffydd laser a systemau teledu cylch cyfyng lliw SmartView Xtra.  Mae meddalwedd chwyddo’r sgrîn Zoomtext Xtra hefyd wedi’i llwytho ar yr holl gyfrifiaduron personol yn yr ystafell hon, ac mae SUPERNOVA wedi’i ychwanegu i’w ddefnyddio ar gyfrifiaduron personol rhwydweithiol yn y llyfrgell. 

Mae gan fyfyrwyr â nam ar eu golwg yn CDC a PFA fynediad i’r ystafell hon hefyd ac, yn ogystal, mae’r sefydliadau partner wedi llwyddo i gael gafael ar eitemau offer ychwanegol at ddefnydd myfyrwyr â nam ar eu golwg.  Mae’r rhain yn cynnwys chwaraewyr llyfr llafar digidol DAISY (dau i bob sefydliad partner), peiriant Smartview Extend (i’w ddefnyddio yn CDC) a thair uned law Optelec i’w benthyca i fyfyrwyr ym mhob sefydliad.

Mae canllawiau arfer gorau’r Ganolfan yn nodi’r gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod y Ganolfan yn gallu cyflenwi braille, fformatiau electronig a recordiadau mewn pryd ar gyfer dosbarthiadau neu cyn darlithoedd.  Mae’r canllawiau hyn, ynghyd â llawlyfr ar sut i ddarparu gwybodaeth hygyrch i bawb, ar gael i’w lawrlwytho yma.