Canolfan Trawsgrifio
Mae’r prosiect cydweithredu hwn yn defnyddio’r gwasanaethau presennol yng Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe er mwyn darparu gwasanaeth trawsgrifio llawn i fyfyrwyr â nam ar eu golwg ym mhob un o’r tri sefydliad partner. Mae’r Ganolfan, sy’n rhan o Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Prifysgol Abertawe, yn cael ei rhedeg gan bum aelod o staff sy’n gweithio’n agos gyda Llyfrgellwyr i Bobl Anabl a staff Gwasanaethau Myfyrwyr ym mhob un o’r tri sefydliad partner. Mae’r Canolfan Trawsgrifio yn cysylltu gyda’r myfyrwyr â nam ar eu golwg, eu tiwtoriaid academaidd a staff cymorth, yn ogystal â chyrff allanol, er mwyn darparu’r cymorth mwyaf priodol ac effeithlon.
Nod y Ganolfan yw darparu testunau i fyfyrwyr â nam ar eu golwg yn eu fformat dewisol – fformat sain ddigidol, braille, print bras, cyffyrddol neu electronig – mor gyflym â phosibl. Yn ogystal â recordio llyfrau cyfan, mae’r Canolfan Trawsgrifio hefyd yn trawsgrifio taflenni, detholiadau o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion ym mha bynnag fformat sydd ei angen. Mae deunydd cyhoeddusrwydd (prosbectysau, taflenni a chanllawiau i fyfyrwyr) yn cael ei drawsgrifio’n awtomatig i’r sefydliadau partner a gall darpar fyfyrwyr ymweld â’r Ganolfan i drafod eu hanghenion cymorth ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gwaith darllen yn cael ei gyflawni gan tua 100 o wirfoddolwyr sy’n rhoi awr yr wythnos er mwyn recordio’r testunau academaidd y mae myfyrwyr wedi gofyn amdanynt. Mae’r Ganolfan yn recriwtio gwirfoddolwyr ag arbenigedd yn y meysydd pwnc a ddewiswyd gan y myfyrwyr ac mae’n defnyddio siaradwyr brodorol ar gyfer recordiadau mewn ieithoedd tramor. Oherwydd bod y Ganolfan yn archifo ei recordiadau DAISY gyda llyfrgell genedlaethol yr RNIB, mae gan fyfyrwyr â nam ar eu golwg yn PA, PFA a CDC hawl i dderbyn aelodaeth am ddim o Wasanaeth Llyfr Llafar Digidol yr RNIB.
