Dolenni defnyddiol
Isod ceir rhestr o ddolenni at wybodaeth ddefnyddiol :
- AUPO Y Gymdeithas ar gyfer Swyddogion Caffael Prifysgolion (The Association of University Procurement Officers) yw’r fforwm ar gyfer cyfnewid gwybodaeth broffesiynol ac arfer dda ymhlith Swyddogion Caffael ar draws y sector Addysg Uwch.
- Mae Buy4Wales yn cael ei ddarparu gan Dîm Caffael ‘Gwerth Cymru’ Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n ffynhonnell ar gyfer prynwyr y sector cyhoeddus ar draws Cymru. Gw. hefyd Sell2Wales.
- Buying Solutions sef asiantaeth fasnachol o’r OGC (gw.isod) a phartner caffael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y DU, gyda’r nod o uchafu gwerth am arian wrth ganfod gwasanaethau a nwyddau ar gyfer cwsmeriaid mewn llywodraeth ganol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill.
- Chartered Institute of Purchasing and Supply Mae’r CIPS yn sefydliad rhyngwladol, wedi’i leoli yn y DU, sy’n gwasanaethu’r proffesiwn caffael a chyflenwi. Aelodaeth broffesiynol o’r Sefydliad Siartredig yw’r achrediad sy’n cael ei ffafrio ar gyfer staff Caffael ymhob sector cyhoeddus a phreifat ac fel canlyniad mae llawer yn derbyn cymhwyster proffesiynol.
- HEPCW Mae Consortiwm Caffael Addysg Uwch Cymru (Higher Education Purchasing Consortium Wales) yn cynrychioli aelodau o nifer o sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, ac mae’n amcanu at adnabod a monitro meysydd strategol o wariant lle y gallai cydweithio posibl arwain at well effeithlonrwydd ac Arfer Dda i’w aelodau.
- NEC mae’r Cytundeb Peirianneg Newydd (New Engineering Contract), a ffurfiwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, yn set o ddogfennau contract sy’n cysylltu cyflenwyr mewn dull anwrthwynebus ac yn hwyluso gweithrediad perthynas gadarn ac egwyddorion rheoli prosiectau effeithiol mewn contractau gwaith, gwasanaethau a chyflenwi.
- OGC (Swyddfa Masnach y Llywodraeth: Office of Government Commerce) Mae rôl OGC yn cynnwys darparu cefnogaeth ac arweiniad ar bolisi caffael ac arfer dda ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan sicrhau gwerth am arian, a gwella cynaliadwyedd, ynghyd â rheolaeth prosiectau a rhaglenni.
- Mae Procureweb yn wasanaeth cefnogi caffael TGCh, ar gyfer Sector Addysg Uwch y DU, Sector Addysg Bellach y DU a Chynghorau Ymchwil. Mae’n darparu offer gwe, gwybodaeth a chefnogaeth i weithwyr sy’n cyfranogi yn y broses gaffael.
- Mae Sell2Wales yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn darparu mynediad rhad ac am ddim trwy’r rhyngrwyd i gyflenwyr fel y gallant edrych ar hysbysiadau caffael y sector cyhoeddus a derbyn rhybudd am gyfleoedd contract.
- Supply Management yw cylchgrawn y Sefydliad Siartredig ar gyfer Pwrcasu a Chyflenwi (Chartered Institute of Purchasing and Supply), ac mae’n darparu cefnogaeth ac arweiniad, gan gynnwys erthyglau ac astudiaethau achos cyfredol, ar bob agwedd o arferion Caffael.
- TED (Tenders Electronic Daily) yw cylchgrawn swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, lle y mae tendrau ar gyfer contractau sector cyhoeddus sy’n uwch na throthwy’r UE yn cael eu hysbysebu.